Y Comisiynydd yn cefnogi ymgyrch diogelwch newydd i fenywod sy'n rhedeg
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cefnogi ymgyrch newydd gan Athletau Cymru i roi sylw i bryderon cynyddol ymysg menywod sy'n rhedeg.
Ysbrydolwyd yr ymgyrch 'Own the Night' gan y gwaith cydweithredol rhwng Athletau Cymru a Heddlu Gwent, sy'n rhoi cyngor ac arweiniad i fenywod a merched ynghylch sut i gadw'n ddiogel pan fyddant allan yn rhedeg.
Nod yr ymgyrch yw:
- Codi ymwybyddiaeth o bryderon menywod am eu diogelwch pan fyddant yn rhedeg yn y nos neu'n gynnar yn y bore.
- Grymuso menywod i barhau i redeg yn hyderus yn ystod misoedd y gaeaf.
- Addysgu cymunedau rhedeg a'r cyhoedd am gynghreiriaeth a ffyrdd ymarferol i gefnogi menywod.
- ‘ Adhawlio'r strydoedd’ - annog grwpiau a chlybiau ledled Cymru i redeg mewn grŵp ddydd Sul 26 Hydref, y diwrnod mae'r awr yn mynd yn ôl.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.welshathletics.org/en/page/own-the-night
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Rwyf wedi ymweld â grwpiau ac wedi siarad â rhedwyr o bob rhan o Went, ac wedi gwrando ar eu rhwystredigaeth a'u pryderon.
"Mae'n annerbyniol bod cymaint o fenywod a merched yn teimlo na allant fynd allan i redeg neu gerdded yn eu cymunedau am nad ydynt yn teimlo'n ddiogel. Dylai bod pob un ohonom ni fod yn rhydd i redeg heb ofni sylwadau o natur rywiol, cam-drin geiriol, neu fygythiadau o drais.
"Mae Heddlu Gwent yn gwneud gwaith ardderchog i hybu diogelwch ymysg y gymuned rhedeg, ac mae'n wych gweld bod hyn wedi ysbrydoli ymgyrch newydd Athletau Cymru.
"Yn y pen draw, fodd bynnag, mae'r heriau mae rhedwyr benywaidd yn eu hwynebu'n adlewyrchu'r problemau cymdeithasol ehangach y mae'n rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i'w datrys. Rwyf yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yma'n ysgogi'r sgyrsiau a'r camau gweithredu angenrheidiol i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau".
Gellir riportio problemau wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, anfon neges yn uniongyrchol ar Facebook, neu ar-lein. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.