Y Comisiynydd yn cefnogi menter Heddlu Gwent i gadw rhedwyr yn ddiogel

1af Hydref 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ag aelodau o gymuned rhedeg Casnewydd i ail lansio cynllun rhedeg yn ddiogel Heddlu Gwent ar gyfer y gaeaf.

Mae swyddogion Heddlu Gwent yn gweithio gydag Athletau Cymru i roi cyngor ac arweiniad i fenywod a merched ynghylch sut i gadw'n ddiogel wrth redeg, yn arbennig yn ystod misoedd tywyllach y gaeaf.

Mae swyddogion wedi siarad â rhedwyr o glybiau ledled Gwent am y camau ymarferol y gallan nhw eu cymryd i gadw'n ddiogel, a sut i riportio unrhyw bryderon. Anogir menywod sy'n profi aflonyddu neu ymddygiad bygythiol pan fyddan nhw allan yn rhedeg i gysylltu â'r heddlu a riportio'r mater.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: “Wrth i'r diwrnodau fyrhau a'r nosweithiau dywyllu, mae llawer o fenywod a merched yn peidio â rhedeg yn eu cymunedau oherwydd nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel.

“Mae'r fenter yma gan Heddlu Gwent yn cydnabod bod menywod a merched yn debygol o fod yn fwy agored i niwed na dynion pan fyddan nhw allan yn rhedeg, yn enwedig os ydyn nhw'n rhedeg ar eu pennau eu hunain, ac mae'n rhoi cyngor ac arweiniad syml ynghylch cadw'n ddiogel a riportio unrhyw broblemau neu bryderon.”

Dyma bum awgrym Heddlu Gwent i bawb sy'n rhedeg:

  1. Cadwch at lwybrau gyda digon o olau a cheisiwch osgoi ardaloedd diarffordd
  2. Gwisgwch ddillad llachar a goleuadau er mwyn bod yn hawdd eich gweld
  3. Dywedwch wrth rywun ble'r ydych chi'n mynd a faint o'r gloch rydych chi'n disgwyl bod yn ôl
  4. Rhannwch eich llwybr gyda rhywun neu rhedwch gyda phobl eraill
  5. Ewch a'ch ffôn symudol gyda chi bob tro


Gellir riportio problemau wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, anfon neges yn uniongyrchol ar Facebook, neu ar-lein. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.