Y Comisiynydd yn buddsoddi mewn teledu cylch cyfyng i gadw cymunedau Torfaen yn ddiogel
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi buddsoddi £16,000 yn rhwydwaith teledu cylch cyfyng Torfaen i adfer a gwella'r system yng nghymunedau Blaenafon, Garndiffaith, Pont-y-pŵl a Threfddyn.
Bydd y buddsoddiad yn cefnogi mentrau diogelwch cymunedol lleol ac yn helpu i gadw cymunedau'n ddiogel.
Mae'n rhan o fuddsoddiad ehangach o £50,000 ym Mhartneriaethau Diogelwch Cymunedol Gwent i wella patrolau diogelwch, ymgysylltu â busnesau a darparu gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Gwent y gaeaf yma.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Bydd y buddsoddiad yma'n cynorthwyo'r heddlu a'r cyngor lleol i amddiffyn ein cymunedau a'u cadw nhw'n ddiogel.
"Trwy weithio gyda'n gilydd a chanolbwyntio ar ardaloedd sy'n peri problemau, rydym yn anfon neges glir ein bod yn cymryd pryderon ein preswylwyr o ddifrif ac na fydd trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu goddef yn ein cymunedau.”
Mae'r gwaith partner yn rhan o ymgyrch Gaeaf o Weithredu'r Swyddfa Gartref ac mae'n adeiladu ar yr ymgyrch Strydoedd Saffach yr Haf, a arweiniodd at fwy na 16,000 arést a dirwyon ledled y Deyrnas Unedig am droseddau fel siopladrad ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Rydym yn benderfynol o gydweithio gyda sefydliadau eraill i gefnogi mentrau ymyrraeth gynnar ac atal sy'n lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gwella diogelwch a lles cymunedau. Diolch i'r Tîm Diogelwch Cymunedol a'r Comisiynydd am sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith yma. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a gwneud ein cymunedau'n llefydd mwy diogel a dymunol i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw."
Meddai Prif Arolygydd Stevie Warden: "Fel y dangoswyd yn ystod ein hymgyrch Gaeaf o Weithredu, mae ein timau cymdogaeth yn rhoi pwyslais ar achub y blaen ar drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol trefi.
"Trwy gymysgedd o batrolau amlwg ychwanegol, ymgyrchoedd cudd a mentrau atal trosedd, rydyn ni'n targedu troseddwyr ac yn diogelu preswylwyr rhag byrgleriaeth, troseddau dwyn ac unrhyw ymddygiad afreolus sy'n effeithio ar breswylwyr, gweithwyr a phobl sy'n ymweld â'n trefi.
"Bydd y buddsoddiad derbyniol iawn yma yn rhwydwaith teledu cylch cyfyng Torfaen yn hybu ein gwaith fel rhan o'r bartneriaeth diogelwch cymunedol, gan ein galluogi ni i ddwyn troseddwyr gerbron y llysoedd a chadw ein cymunedau'n ddiogel."