Y Comisiynydd yn buddsoddi mewn cymunedau mwy diogel

29ain Medi 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi buddsoddi dros £50,000 mewn mentrau diogelwch cymunedol yr haf hwn.

Rhoddodd y Comisiynydd arian i brosiectau ym mhob un o bum sir Gwent, gyda'r nod o wella'r gwaith mae awdurdodau lleol yn ei wneud i ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y mannau sy'n achosi problemau yn eu hardaloedd.

Roedd y cyllid ychwanegol yn cefnogi gwaith partner rhwng cynghorau a'r heddlu i gynyddu patrolau a gweithredu lleol yn rhan o Fenter Strydoedd Saffach yr Haf Llywodraeth San Steffan. Roedd yn cynnwys:

  • Cyllid ar gyfer gwaith allgymorth pwrpasol gydag ieuenctid mewn ardaloedd ym Mlaenau Gwent a Chaerffili.
  • Gwaith ymgysylltu ac allgymorth gyda phobl ifanc mewn busnesau yn Sir Fynwy.
  • Ymgysylltu ag ieuenctid a mwy o batrolau warden diogelwch cymunedol yng Nghasnewydd.
  • Mwy o oriau a gweithgareddau yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn Nhorfaen.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Dylai preswylwyr deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau. Er bod gan blismona ran i'w chwarae, mae angen i ni roi sylw i achosion craidd y problemau hyn, ac mae pawb yn gyfrifol am hynny.

“Trwy fuddsoddi i gefnogi awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wneud gwaith ymgysylltu a dargyfeirio mewn ardaloedd sy’n peri problemau, rydyn ni'n galluogi'r heddlu i dreulio amser yn y mannau lle mae eu hangen nhw fwyaf.

“Pan mae'r heddlu, awdurdodau lleol, a phartneriaid eraill yn gweithio’n agosach gyda'i gilydd i ganolbwyntio ar y mannau sy'n peri problemau, rydyn ni'n anfon neges glir na fydd yr ymddygiad yma'n cael ei oddef yn ein cymunedau.”