Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb
Yr wythnos hon rydyn ni’n nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb, sy'n canolbwyntio'n benodol ar droseddau casineb ar sail anabledd.
Dros yr haf, cefais y fraint o fynd i Viva Fest yng Nghasnewydd - gŵyl gerddoriaeth hygyrch sy'n dod â phobl ag anableddau dysgu at ei gilydd i ddathlu eu hunaniaeth. Tra'r oeddwn i yno, siaradais ag unigolion o bob rhan o Gymru ac roeddwn yn drist iawn i glywed am rai o'r profiadau ofnadwy maen nhw wedi gorfod eu dioddef.
Dim ond yr wythnos ddiwethaf, bu'n rhaid i'r comedïwr Rosie Jones, sydd â pharlys ymenyddol, ddioddef cam-drin ableddol wrth deithio ar drên. Roedd yn ddigwyddiad erchyll sy'n tynnu sylw at yr heriau real iawn mae pobl anabl yn parhau i'w hwynebu bob dydd.
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod tua 11,719 o droseddau casineb ar sail anabledd wedi cael eu cofnodi yn y Deyrnas Unedig y llynedd. Er bod y nifer yma'n llai na'r niferoedd yn y blynyddoedd blaenorol, diolch i'r drefn, rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy o bobl yn dioddef digwyddiadau casineb heb eu riportio nhw. Rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon.
Ni all yr heddlu weithredu oni bai eu bod yn gwybod bod rhywbeth wedi digwydd. Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, riportiwch y mater. Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn mynd at yr heddlu, mae cymorth ar gael gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru.
Rwyf yn credu mewn cymunedau lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel i fyw fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag brawychu, gwahaniaethu neu niwed. Nid delfryd yn unig yw cymunedau lle mae caredigrwydd, dealltwriaeth a pharch yn werthoedd sy'n cael eu harddel bob dydd.
Pan mae unigolion yn gwrthod yr egwyddorion yma, ac yn dechrau gweithredu gyda chasineb, mae'n hollbwysig ein bod yn ymateb yn benderfynol ac yn briodol. Wrth i'n poblogaeth dyfu a dod yn fwy amrywiol, mae'r sialens yma'n dod yn fwy taer, a rhaid i blismona esblygu er mwyn ei herio’n uniongyrchol.
Rwyf yn sefyll yn gadarn gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd casineb. Dyna pam rwyf yn falch i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb ac i herio'r anghyfiawnder yma ble bynnag mae'n digwydd.