Tîm plismona newydd i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngwent

27ain Mehefin 2025

Mae Heddlu Gwent wedi lansio tîm gweithredu yn y gymuned newydd i weithio gyda'i swyddogion cymdogaeth ac ymdrin ag ardaloedd lle mae trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem.

Mae’r tîm yn cynnwys 16 Cwnstabl Heddlu a 10 Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu, dan arweiniad dau ringyll tîm ac Arolygydd penodedig.

Bydd yn canolbwyntio ar drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud yn benodol â beiciau oddi ar y ffordd anghyfreithlon, cyffuriau a throseddau cerbydau.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd:

"Mae Prif Gwnstabl Mark Hobrough a mi yn unedig yn ein hymrwymiad i gynyddu plismona gweladwy yn ein cymunedau. Dyma beth mae ein preswylwyr wedi dweud wrthym ni maen nhw ei eisiau a dyna pam mae'n rhan allweddol o fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd.

“Bydd y Tîm Gweithredu yn y Gymuned yn rhoi gwydnwch ychwanegol i’r Prif Gwnstabl i roi mwy o swyddogion yn yr ardaloedd sydd eu hangen nhw fwyaf, ac rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r gwaith yma yn yr wythnosau i ddod.”

Arweinydd y tîm yw Arolygydd Laura Paget.

Dywedodd: "Nod plismona cymdogaeth yw bod yn rhagweithiol, datrys problemau lleol a gwneud yn siŵr ein bod ni wrth wraidd y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac yn ymgysylltu a nhw.

"Dros y pedwar mis nesaf bydd swyddogion yn gweithio yn yr ardaloedd rydyn ni wedi nodi sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cerbydau, boed hynny’n ymchwilio i’r defnydd o gerbydau oddi ar y ffordd yn Alway neu yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghwmbrân.

"Mae gan y cyhoedd yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eu cymdogaethau, ac rydyn ni i gyd wedi ymroi i wella diogelwch, gwella ymddiriedaeth yn ein gwasanaethau a meithrin perthnasoedd cadarn gyda’r cyhoedd.

"Trwy ein dull rhagweithiol, ers i ni ddechrau ar 9 Mehefin rydyn ni wedi arestio mwy na 20 o bobl am ddigwyddiadau’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau, troseddau ffyrdd a gyrru, meddiant ar arfau neu droseddau treisgar. Rydyn ni wedi atafaelu rhyw 21 cerbyd sydd naill ai wedi bod yn gysylltiedig ag adroddiadau am yrru oddi ar y ffordd yn wrthgymdeithasol neu droseddau traffig ffyrdd.

"Bydd y timau’n parhau ein gwaith gyda phartneriaethau diogelwch cymunedol ym mhob ardal awdurdod lleol hefyd i ddatblygu’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes i wneud ein cymdogaethau’n fwy diogel."