Swyddogion mwyaf newydd Gwent yn barod i wasanaethu

24ain Hydref 2025

Mae grŵp newydd o swyddogion wedi cwblhau rhan gyntaf eu hyfforddiant gyda Heddlu Gwent yn llwyddiannus a nawr byddant yn dechrau eu dyletswyddau gweithredol ledled y rhanbarth.

Bydd y swyddogion yn ymuno â thimau ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, lle byddant yn parhau i ddatblygu eu sgiliau ac ennill profiad gwerthfawr ar y rheng flaen.

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â'r swyddogion newydd, eu teuluoedd, a chydweithwyr yn Heddlu Gwent ar gyfer seremoni gorffen hyfforddiant ffurfiol, sy'n nodi diwedd eu cyfnod hyfforddiant cyntaf.

Meddai Comisiynydd Mudd: "Mae pob un o'r swyddogion hyn wedi dangos ymroddiad a phenderfyniad wrth gyrraedd y garreg filltir hon. Dylent fod yn eithriadol o falch o'u cyflawniadau.

“Mae Prif Gwnstabl Mark Hobrough a fi wedi ymroi o hyd i wneud yr heddlu'n fwy gweladwy ledled Gwent, a bydd y swyddogion hyn yn chwarae rôl hollbwysig yn ein helpu ni i gyflawni'r nod hwnnw. Rwyf yn hyderus y byddant yn cael croeso cynnes yn y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

“Mae plismona'n broffesiwn heriol ond boddhaus a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw ar ddechrau eu gyrfa.”