Lleisiwch eich barn ynglŷn â chyllid yr heddlu yng Ngwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, yn gofyn am farn preswylwyr ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu'r swm mae preswylwyr yn ei dalu tuag at blismona bob mis trwy'r dreth gyngor. Mae bron i 43 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent yn dod o daliadau'r dreth gyngor lleol.
I wneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried sawl ffactor:
- Y swm mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar yr Heddlu i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol
- Y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth San Steffan
- Cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder
- Fforddiadwyedd i drigolion lleol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae preswylwyr wedi dweud wrthyf eu bod eisiau presenoldeb heddlu mwy gweladwy. Maen nhw eisiau gweld mwy yn cael ei wneud i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed ac i ymdrin ag achosion sylfaenol troseddu. I gyflawni hyn, yn ogystal â chyrraedd y goliau uchelgeisiol a bennwyd gan Lywodraeth San Steffan o dan ei Ymgyrch Strydoedd Saffach a pharhau i dalu am gostau cynnydd blaenorol mewn swyddogion heddlu a swyddogion cefnogi cymuned, mae angen buddsoddiad arnom ni.
"Dim ond un newidyn uniongyrchol rwy'n gallu ei reoli o ran cyllid, sef faint o braesept y dreth gyngor sy'n cael ei dalu gan bobl leol. Fodd bynnag, rwyf yn deall hefyd bod llawer o bobl yn ein cymunedau'n profi trafferthion ariannol.
"Cyn i mi wneud unrhyw benderfyniadau ar gyllideb Heddlu Gwent ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf eisiau rhoi cyfle i chi leisio barn, lleisio unrhyw bryderon, neu rannu eich sylwadau. Rwyf yn addo y bydd eich sylwadau'n cael eu darllen, eu hystyried, ac y byddant yn llywio fy mhenderfyniad.
"Treuliwch ychydig o funudau yn cwblhau fy arolwg ac yn lleisio eich barn."
I gymryd rhan, ewch i: https://bit.ly/3XWnGIW