Helpwch i lywio dyfodol plismona yng Ngwent

26ain Ionawr 2026

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a Heddlu Gwent yn chwilio am bobl broffesiynol profiadol i ymuno â'u Cydbwyllgor Archwilio a chyfrannu at y gwaith o bennu cyfeiriad plismona ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Cydbwyllgor Archwilio yn rhoi cyngor a sicrwydd annibynnol ynglŷn ag effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli mewnol ar draws y ddau sefydliad. Mae aelodau'n chwarae rhan allweddol yn craffu ar drefniadau llywodraethu, ac adolygu polisïau, strategaethau a phrosesau rheoli risg newydd neu arfaethedig.

Dylai bod gan ymgeiswyr brofiad cadarn o ddeddfwriaeth y sector cyhoeddus, llywodraethu sefydliadol, a goruchwyliaeth strategol.

Mae'r Cydbwyllgor yn cyfarfod o leiaf bum gwaith y flwyddyn. Telir ffi o £211.50 i aelodau am gyfarfod diwrnod llawn, ac ad-delir costau teithio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/swyddi-gwag