Gwobrau hirwasanaeth Heddlu Gwent

26ain Medi 2025

Mae swyddogion a staff yr heddlu sydd wedi gwasanaethu cymunedau Gwent am bron i chwarter canrif wedi cael eu cydnabod mewn seremoni arbennig.

Mae Gwobrau Hirwasanaeth Heddlu Gwent yn cydnabod swyddogion a staff yr heddlu sydd wedi gwasanaethu gyda'r heddlu am dros 20 mlynedd.

Cynhaliwyd y seremoni yn Rodney Parade ddydd Gwener 19 Medi.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae cyrraedd 20 mlynedd o wasanaeth yn garreg filltir sylweddol yng ngyrfa unrhyw un, yn arbennig mewn plismona lle bydd swyddogion a staff wedi wynebu heriau annhebyg i rai unrhyw broffesiwn arall.

“Yn ystod y cyfnod yma mae'r swyddogion a staff diwyd ac ymroddgar hyn wedi helpu i wneud Gwent yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw ynddo yn y wlad. Maen nhw wedi helpu Heddlu Gwent i gyflawni ei ymrwymiad i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.

"Rwyf eisiau diolch i'r swyddogion a staff hyn, ar fy rhan i ac ar ran ein preswylwyr, am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a'u hymroddiad dros y 20 mlynedd diwethaf, ac am eu gwasanaeth parhaus."