Gwobrau Heddlu Gwent 2025

12fed Tachwedd 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â swyddogion a staff heddlu ar gyfer seremoni gwobrau blynyddol Heddlu Gwent.

Mae'r gwobrau'n cydnabod y swyddogion a staff heddlu hynny sydd wedi mynd yr ail filltir i amddiffyn a thawelu meddwl pobl Gwent.

Cyflwynodd Comisiynydd Mudd Wobr Partneriaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i Swyddog Cefnogi Cymuned Lisa Gibbs am ei gwaith yn ymdrin â cham-drin a thrais domestig ym mwrdeistref Caerffili.

Dywedodd: “Mae bob amser yn fraint i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n cydnabod gwaith plismona eithriadol sy'n achub bywydau ac yn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel.

"Mae swyddogion a staff Heddlu Gwent yn mynd yr ail filltir yn gyson, yn gweithio dan bwysau mawr ac mewn amgylchiadau heriol i wasanaethu'r cyhoedd, a hynny gan roi eu hunain mewn perygl personol yn aml.

"Mae cymryd amser i gydnabod eu hymroddiad yn bwysig, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt ar ran pobl Gwent am eu gwasanaeth."