Disgyblion yn cael golwg tu ôl i'r llenni ym Mhencadlys Heddlu Gwent
Yr wythnos yma cafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Nant Celyn gipolwg tu ôl i'r llenni ym Mhencadlys Heddlu Gwent yn Llantarnam.
Yn ystod yr ymweliad cafodd y disgyblion gwrdd â swyddogion a staff heddlu o amrywiaeth eang o adrannau a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent Jane Mudd a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent Mark Hobrough.
Cafodd y disgyblion, sy'n aelodau o grŵp Heddlu Bach yr ysgol, olwg ar Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Heddlu a chwrdd â'r swyddogion sy'n ymateb i alwadau 101 a galwadau brys 999. Siaradodd swyddogion â'r grŵp am yr effaith mae galwadau ffug yn ei chael ar ymateb gwasanaethau brys a gwnaethant ateb cwestiynau'r disgyblion.
Roedd y disgyblion yn llawn cyffro i gael cwrdd â PD Ruby a'i thriniwr hefyd. Mae PD Ruby yn un o 20 o gŵn heddlu sy'n gweithio i Heddlu Gwent a dangosodd ei sgiliau gydag arddangosiad cyflym o'i gwaith synhwyro. Roedd y disgyblion wrth eu boddau'n holi cwestiynau i ddysgu mwy am y rôl mae cŵn heddlu'n ei chwarae yn cadw cymunedau yng Ngwent yn ddiogel.
Trefnwyd yr ymweliad ar ôl y sesiwn Mannau Diogel yn yr ysgol. Mae sesiynau Mannau Diogel yn cael eu trefnu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac maen nhw'n helpu'r Comisiynydd i ddeall canfyddiadau plant o blismona. Mae'r sesiynau ar agor i bob ysgol gynradd yng Ngwent.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Pan gefais fy ethol ychydig dros flwyddyn yn ôl, addewais wrando ar farn plant a phobl ifanc. Ers hynny, rwyf wedi mwynhau ymweld â nifer o ysgolion a digwyddiadau ac roeddwn yn falch iawn i groesawu disgyblion Heddlu Bach o Ysgol Gynradd Nant Celyn i'n pencadlys hyfryd.
“Roedd y plant yn chwilfrydig iawn i ymweld â'r adeilad a gweld yr amrywiaeth eang o adrannau a swyddogion sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda'n timau gweithredol i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Roeddwn yn falch i fod yn rhan o'r sesiwn holi ac ateb ochr yn ochr â'r Prif Gwnstabl. Roedd y cwestiynau'n ystyriol iawn ac roedd yn amlwg bod y disgyblion wedi gwneud eu hymchwil. Rwyf yn gobeithio bod yr ymweliad wedi ysbrydoli a dysgu'r disgyblion."