Disgyblion Heddlu Bach yn disgleirio yng nghystadleuaeth cerdyn Nadolig swyddogol y Comisiynydd
Yn ddiweddar cymerodd disgyblion o ysgolion Heddlu Bach ledled Gwent ran mewn cystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig swyddogol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.
Gofynnodd y Comisiynydd, Jane Mudd, i'r disgyblion gynnwys negeseuon o undod a chariad at eu cymuned yn eu dyluniadau. Derbyniwyd mwy na 280 o ddyluniadau, a'r enillydd oedd Noah, disgybl yn Ysgol Gynradd Pengam yng Nghaerffili.

Derbyniodd disgyblion o Ysgol Gynradd Coed Efa ac Ysgol Gynradd Crindau, Georgia a Nyla, wobrau a thystysgrifau am eu dyluniadau hefyd. Derbyniodd dros 30 o ddisgyblion dystysgrifau Canmoliaeth Uchel hefyd.
Cynllun i ddisgyblion blwyddyn pump a chwech mewn ysgolion cynradd yw'r Heddlu Bach. Mae'r fenter yn helpu plant ac ysgolion i ymdrin â phroblemau lleol, y mae'r plant yn tynnu sylw atynt, yn eu cymuned eu hunain. Mae'n annog cydlyniant cymunedol ac mae disgyblion yn cael cymorth gan Heddlu Gwent, sy'n helpu i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth yn yr heddlu yn ifanc.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd: "Hoffwn ddiolch i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran. Roedd yn anodd iawn dewis ffefryn ymysg cymaint o ddyluniadau gwych.
“Hoffwn ddiolch i dîm Ymgysylltu Ieuenctid ac Ysgolion Heddlu Gwent hefyd a gefnogodd y gystadleuaeth ac annog yr ysgolion Heddlu Bach i gymryd rhan