Dathlu Cenhedlaeth Windrush

26ain Mehefin 2025


Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi talu teyrnged i Genhedlaeth Windrush Gwent.

Mae Cenhedlaeth Windrush yn cyfeirio at y dynion, menywod a phlant Affro-Caribïaidd a gyrhaeddodd gwledydd Prydain ar HMT Empire Windrush ym 1948. Roedd angen mawr am weithwyr yng ngwledydd Prydain ar y pryd a chawsant groeso yn rhan o’r ymdrechion i ail adeiladu'r wlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ddydd Sul aeth tîm y Comisiynydd i ddigwyddiad a oedd yn cael ei gynnal gan y sefydliad celfyddydau ieuenctid Urban Circle, yn cydnabod etifeddiaeth Cenhedlaeth Windrush yng Nghasnewydd mewn cyfres o ffilmiau byr.

Yn ddiweddarach yr wythnos yma bydd y Comisiynydd yn mynd i ddigwyddiad arbennig yn y Senedd hefyd, sy'n cael ei drefnu gan Race Council Cymru ac yn cael cyllid gan bedwar comisiynydd heddlu a throsedd Cymru, i ddathlu'r cyfraniad mae Cenhedlaeth Windrush wedi ei wneud yng Nghymru.

Meddai Jane Mudd: “Diwrnod Windrush yw ein cyfle ni i ddiolch i'r bobl hynny a adawodd eu cartrefi ac a deithiodd mor bell i ddod i'n helpu ni i ail adeiladu'r wlad ar ôl y rhyfel. Mae 77 mlynedd yn awr ers i HMT Empire Windrush gyrraedd ein glannau ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i gofio'r dynion a menywod hynny a aeth yn eu blaenau i wneud cymaint o gyfraniad i'n cymunedau."