Cydnabod gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru

16eg Mehefin 2025

Ymunodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Eleri Thomas gyda phartneriaid i gydnabod gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru.

Mae'r gwirfoddolwyr yn darparu triniaeth a hyfforddiant cymorth cyntaf, a chludiant i gymunedau ledled Cymru

Cafodd eu gwaith caled a'u hymroddiad ei gydnabod yng ngwasanaeth arwisgo blynyddol y sefydliad yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae gan St John Ambulance Cymru hen hanes o roi cymorth i bobl Cymru. Mae ei wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i'n cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn iach mewn cymaint o ddigwyddiadau cymunedol. Maen nhw'n darparu cludiant hanfodol i'r bobl sydd ei angen fwyaf hefyd, er mwyn iddyn nhw allu mynd i safleoedd gofal iechyd.

"Hoffwn ddiolch i bob un o wirfoddolwyr St John Ambulance Cymru am y gwasanaeth ardderchog maen nhw'n ei ddarparu."