Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer grwpiau cymunedol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, yn buddsoddi mwy na hanner miliwn o bunnoedd mewn mentrau cymunedol sy'n cefnogi ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder ar gyfer Gwent.
Mae'r Comisiynydd wedi cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cefnogi dioddefwyr a phobl sy’n agored i niwed, a chreu cydlyniant cymunedol.
Gall grwpiau cymunedol, elusennau, mentrau cymdeithasol, a sefydliadau â phwyslais ar y gymuned, wneud cais i un o dair ffrwd ariannu:
- Cronfa Bartneriaeth y Comisiynydd - Grantiau o hyd at £1000 i alluogi sefydliadau ar lawr gwlad i gyflawni gweithgareddau a arweinir gan y gymuned.
- Cronfa Gymunedol y Comisiynydd - Grantiau rhwng £1000 - £50,000 i alluogi sefydliadau i gyflawni prosiectau parhaus gyda phwyslais ar gefnogi plant a phobl ifanc.
- Cronfa Ymgysylltu Cymunedol y Comisiynydd - Grantiau o hyd at £5000 i gefnogi prosiectau sy'n creu cydlyniant cymunedol, ac ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ogystal â hyn, mae'r Comisiynydd wedi cyfrannu £65,000 at gronfa Uchel Siryf Gwent, sy'n cefnogi prosiectau bach cymunedol ledled y rhanbarth.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae pobl ledled Gwent wedi dweud wrthyf eu bod eisiau byw mewn cymunedau cryfach, mwy diogel, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hamddiffyn. Maen nhw eisiau camau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol trosedd a chefnogaeth ystyrlon i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae'r gwerthoedd hyn wrth wraidd fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, ond nid ydynt yn heriau y gall plismona eu datrys ar ei ben ei hun.
“Mae gan ein cymunedau y pŵer i greu newid parhaol, ac maent yn aml yn y sefyllfa orau i arwain y ffordd. I wneud hynny, mae angen y gefnogaeth gywir arnynt ac rwy'n falch o fuddsoddi yn y potensial hwnnw, a defnyddio arian a adferwyd o weithgarwch troseddol i helpu i greu cymdeithas decach a mwy diogel.
“Os oes gennych brosiect a all helpu i leihau trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, cefnogi pobl sy’n agored i niwed, neu ddod â chymunedau at ei gilydd i feithrin ymddiriedaeth a hyder, rwyf am glywed gennych. Gyda'n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.”
I gael rhagor o wybodaeth am gyllid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ewch i Comisiynu | Gwent Police and Crime Commissioner