Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyflwyno pryderon trigolion Caerffili yn uniongyrchol i'r Prif Gwnstabl
Cynhaliodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, ei Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus diweddaraf gyda'r Prif Gwnstabl Mark Hobrough i drafod materion sy'n effeithio ar gymunedau ym mwrdeistref Caerffili.
Mae Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus y Comisiynydd yn rhoi llwyfan i'r Comisiynydd Mudd dynnu sylw at bryderon allweddol y mae cymunedau ledled Gwent yn eu codi a'u dwyn yn uniongyrchol at sylw'r Prif Gwnstabl.
Fe wnaethant drafod materion gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, cŵn peryglus, a'r gwaith y mae Heddlu Gwent yn ei wneud i ymdrin ag achosion o droseddau casineb.
Cafodd y fforwm diweddaraf ei recordio yn y Memo yn Nhrecelyn ac mae ar gael i'w weld ar wefan y Comisiynydd ac ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae fy Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus yn rhoi cyfle i drigolion ofyn eu cwestiynau yn uniongyrchol i'r Prif Gwnstabl a sôn wrtho am eu pryderon.
"Hoffwn ddiolch i drigolion bwrdeistref Caerffili a gymerodd yr amser i siarad â ni. Trwy annog sgyrsiau agored, gonest a thryloyw, rydyn ni’n sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ac y gallan nhw chwarae rhan weithredol wrth lywio plismona yng Ngwent."