Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi gwobrau ieuenctid y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â phobl ifanc yng Nghasnewydd ar gyfer Gwobrau Ieuenctid blynyddol y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST).
Mae'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn rhoi cymorth i bobl a chymunedau o dreftadaeth ethnig ledled Cymru. Mae ei wobrau ieuenctid yn cydnabod talent, gwydnwch ac ysbryd y bobl ifanc mae'n gweithio gyda nhw.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn rhoi cymorth i'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid trwy ei Chronfa Gymunedol, sy'n galluogi'r sefydliad i gynnal clybiau wythnosol i blant a phobl ifanc ym Maendy a Philgwenlli. Mae'r clybiau hyn yn rhoi rhywle diogel i'r plant a phobl ifanc fynd gyda'r nos. Gallant gael cymorth iechyd corfforol ac iechyd meddwl gan weithwyr ieuenctid, yn ogystal â chymorth gyda gwaith ysgol. Mae’r gweithwyr ieuenctid yn cynnig arweiniad a chefnogaeth hefyd.
Meddai Comisiynydd Jane Mudd: "Roedd yn bleser ymuno gyda'n partneriaid yn EYST a chydnabod cyflawniadau anhygoel plant a phobl ifanc gwirioneddol ysbrydoledig. Roedd yn fraint cyflwyno gwobrau sy'n cydnabod eu gwaith caled a'u llwyddiant.
"Mae EYST yn chwarae rhan hollbwysig mewn cymunedau ledled Gwent, yn cynnig man diogel a chroesawgar i blant a phobl ifanc o gefndiroedd treftadaeth ethnig, lle gallant gael cymorth, arweiniad, a mwynhau amser gyda ffrindiau.
"Llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd wobr a diolch enfawr i chi, y tîm ymroddgar o weithwyr ieuenctid y mae eich effaith gadarnhaol yn cryfhau ein cymunedau o hyd."