Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn canmol gweithwyr gwasanaethau brys Gwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi talu teyrnged i weithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys ledled Gwent i gydnabod Diwrnod Cenedlaethol y Gwasanaethau Brys.
Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn cael ei gynnal yn flynyddol i anrhydeddu'r cyfraniad hanfodol y mae’r rhai sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y gwasanaethau brys yn ei wneud.
Ymunodd y Comisiynydd Mudd â chydweithwyr yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd am funud o dawelwch a seremoni codi baner i nodi'r achlysur.
Dywedodd: "Mae heddiw yn gyfle i ddiolch i weithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys ledled Gwent sy'n ymroi eu bywydau i achub eraill a chadw ein cymunedau'n ddiogel.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r pwysau ar y gwasanaethau brys wedi bod yn enfawr ac mae’n fy mrawychu bod ymosodiadau ar yr unigolion dewr hyn yn parhau i gynyddu.
"Nid yw eu gwaith caled a'u hymrwymiad erioed wedi bod yn fwy amlwg. Maen nhw’n rhoi eu hunain mewn perygl i'n diogelu ni ac maen nhw’n haeddu gallu cyflawni eu dyletswyddau heb fygythiadau, trais ac ymosodiadau geiriol.
"Rwyf eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i swyddogion yr heddlu, gweithwyr y gwasanaeth brys, a'u teuluoedd am eu gwasanaeth anhunanol, sy'n helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel."