Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn buddsoddi mwy na £1.2m mewn prosiectau cymunedol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi buddsoddi mwy na £1.2m mewn prosiectau cymunedol ledled Gwent yn ystod 2025 – 2026.
Mae'r Comisiynydd wedi cefnogi 22 o brosiectau, llawer ohonynt yn rhoi cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd naill ai’n wynebu risg o droseddu a chymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd wedi dioddef troseddau.
Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi'r amcanion sydd wedi’u nodi yng Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd, ac maent yn cael eu hariannu gan ddefnyddio arian sydd wedi’i adfer o enillion troseddu. Gall grwpiau cymunedol gyflwyno cais i Gronfa Gymunedol y Comisiynydd am symiau sy'n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi eu mentrau.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Rwy'n gwybod o siarad â'n dinasyddion eu bod eisiau byw mewn cymunedau mwy diogel, cryfach, lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u diogelu. Maen nhw eisiau i ni ymdrin ag achosion sylfaenol troseddu a rhoi cefnogaeth ystyrlon i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed.
"Mae'r gwerthoedd hyn yn gonglfeini i fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, ond maen nhw'n heriau cymdeithasol ehangach ac nid yn rhywbeth y gall yr heddlu ei ddatrys ar eu pen eu hunain.
"Mae ein cymunedau yn aml yn gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw fwyaf i ymdrin â'r materion yn eu hardal nhw, ac er mwyn datblygu prosiectau a mentrau mae angen y gefnogaeth gywir arnyn nhw. Rwy'n falch o fod yn buddsoddi yn y potensial hwnnw, gan ddefnyddio arian a gafodd ei adfer o weithgarwch troseddol i helpu i ddatblygu cymdeithas decach a mwy diogel."