Codi llais ar ran Y Fenni: Y Comisiynydd yn holi'r Prif Gwnstabl ar ran y gymuned

26ain Medi 2025

Cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ei Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus diweddaraf gyda Phrif Gwnstabl Mark Hobrough i drafod problemau sy'n effeithio ar Y Fenni a'r ardal o gwmpas.

Mae Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus y Comisiynydd yn rhoi llwyfan i Gomisiynydd Mudd amlygu'r prif bryderon mae cymunedau ledled Gwent wedi eu codi, a'u dwyn nhw i sylw'r Prif Gwnstabl.

Cafodd y fforwm mwyaf diweddar ei recordio yng Nghanolfan Gymuned Y Fenni a gellir ei weld ar wefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae fy Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus yn llwyfan i dynnu sylw at y problemau go iawn mae pobl yn eu hwynebu yma yng Ngwent ac i roi sylw iddyn nhw'n gyhoeddus ar y lefel uchaf.

"Trwy herio'r Prif Gwnstabl mewn lleoliad cyhoeddus, tryloyw, rydyn ni'n hybu atebolrwydd yn ogystal â llywio gwasanaeth heddlu sy'n gwrando, yn esblygu, ac sydd yn wir yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl Gwent.”