Chwalu rhwystrau yn VIVA Fest
Roedd yn wych bod yn rhan o VIVA Fest, sef "Vision, Inclusion, Voice and Advocacy" yn y Ganolfan Gynadledda Genedlaethol yng Nghasnewydd.
Datblygwyd VIVA Fest gan aelodau Pobl yn Gyntaf, ac mae'n ŵyl gerddoriaeth undydd hygyrch sy'n rhoi cyfle i bobl ag anableddau dysgu ddod at ei gilydd i ddathlu eu hunaniaeth.
Rhannodd fy nhîm wybodaeth am amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys trosedd casineb, gyda phobl yn yr ŵyl, yn ogystal â chyngor atal trosedd.
Roedd y digwyddiad yn gyfle ardderchog i hyrwyddo ein taflen Trosedd Casineb hawdd ei darllen, sy'n helpu pobl ag anableddau i adnabod arwyddion trosedd casineb ac, yn fwyaf pwysig, yn esbonio sut i riportio digwyddiad wrth yr heddlu. Roedd yn gyfle i glywed sylwadau pobl am y fersiwn hawdd ei ddarllen o fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder hefyd, sydd wedi cael ei ddatblygu gyda Pobl yn Gyntaf Caerffili.
Roedd yn wych gweld cymaint o bobl a sefydliadau partner yn y digwyddiad.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef trosedd casineb, riportiwch y mater wrth Heddlu Gwent:
Ffoniwch 999 mewn argyfwng
Ffoniwch 101 i riportio digwyddiad
Anfonwch neges at Heddlu Gwent ar Facebook neu Instagram