Canolfan i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol yn agor yng Nghasnewydd

2il Mai 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi ymuno â phartneriaid ar gyfer agoriad swyddogol canolfan cefnogi dioddefwyr trais rhywiol New Pathways yng Nghasnewydd.

Elusen yw New Pathways sy'n darparu cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan dreisio, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gomisiynu gan Swyddfa'r Comisiynydd i ddarparu gwasanaeth eiriolaeth trais domestig pwrpasol i bobl sydd wedi goroesi camdriniaeth yng Ngwent.

Mae'r ganolfan newydd yng Nghasnewydd wedi trawsnewid adeiladau gwag i fod yn ganolfan a fydd yn rhoi cymorth ac amgylchedd diogel i filoedd o bobl sydd wedi goroesi camdriniaeth a thrais.

Meddai Comisiynydd Mudd: "Cefais y fraint o ymuno â'n partneriaid yn New Pathways ar gyfer agoriad eu canolfan newydd wych. Roedd gwrando ar oroeswyr yn adrodd eu hanesion yn bwerus iawn ac yn pwysleisio pam mae angen canolfan fel hon yng Ngwent.

"Mae fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd yn rhoi pwyslais mawr ar roi cymorth i fenywod, merched a phawb sydd wedi dioddef trais a chamdriniaeth. Rwyf wedi ymroi i weithio gyda phartneriaid i wneud popeth o fewn fy ngallu i leihau'r trawma mae goroeswyr y troseddau erchyll hyn yn ei wynebu, ac i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."

Rhagor o wybodaeth am New Pathways - www.newpathways.org.uk - neu ffoniwch 01685 379310.

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.