Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd diweddaraf y Comisiynydd

4ydd Rhagfyr 2025


Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cadeirio sesiwn diweddaraf ei Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd.

Y Bwrdd yw prif fforwm y Comisiynydd i hyrwyddo tryloywder, adolygu perfformiad a pholisïau’r heddlu, a rhoi sylw i’r materion mwyaf pwysig i gymunedau lleol.

Yn ystod y cyfarfod, derbyniodd y Comisiynydd wybodaeth am gynnydd Heddlu Gwent mewn cysylltiad ag adroddiad arolygiad diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi a sut mae’r heddlu’n cyflawni’r blaenoriaethau a amlinellir yn ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Adolygodd adroddiadau blynyddol ar ddysgu a datblygu, a lles plant hefyd.

Mae’r cyfarfod llawn i’w weld ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Darllen adroddiadau a chofnodion.