Ar grwydr

21ain Gorffennaf 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd a'i thîm wedi bod i ddigwyddiadau cymunedol ledled Gwent yr haf yma.

Mae'r Comisiynydd a'i thîm wedi cefnogi Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon, digwyddiadau 999 Parc Bryn Bach a Chil-y-coed, Digwyddiad Mawr Cwmbrân, Diwrnod Rheilffordd Fach y Glebelands, Gŵyl Maendy a Pharti yn y Parc Pont-y-pŵl.

Maen nhw wedi cefnogi digwyddiadau Pride yn Y Fenni, Bedwas a Phont-y-pŵl hefyd.

Meddai Jane Mudd: "Mae digwyddiadau tymor yr haf yn mynd rhagddynt ac rwyf yn mwynhau teithio ar draws Gwent, yn cwrdd â phreswylwyr, a gwrando ar eu barn a'u pryderon.

"Rwyf yn awyddus i mi a'r tîm fod yn bresenoldeb gweladwy yn ein cymunedau ac o fewn cyrraedd preswylwyr. Mae’r sgwrs barhaus hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ac maen nhw’n fy ngalluogi i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y gwasanaeth mae'n ei ddarparu ar gyfer pobl Gwent."