Adroddiad arolwg HMICFRS o Heddlu Gwent wedi'i gyhoeddi

27ain Mehefin 2025

Mae adroddiad arolwg diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi o Heddlu Gwent wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'r adroddiad yn ymdrin â'r cyfnod 2023-2025.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Er nad yw'n gymhariaeth uniongyrchol ag adroddiad 2021/22, mae'n gadarnhaol gweld bod HMICFRS yn cydnabod llawer o'r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud ers hynny.

"Fel mae'r adroddiad yn nodi, mae tîm uwch arweinwyr Heddlu Gwent wedi newid yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Penodais Brif Gwnstabl Hobrough ym mis Rhagfyr 2024 ac mae wedi rhoi model gweithredu newydd ar waith ar gyfer Heddlu Gwent yr wyf yn hyderus sy'n sbarduno gwelliannau ledled yr heddlu.

"Rwyf yn gweld cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud yn erbyn y blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, a mwy o bwyslais ar roi blaenoriaeth i ddioddefwyr, yr wyf yn gwybod sy'n eithriadol o bwysig i'n preswylwyr ni.

"Er mwyn sicrhau gwelliant parhaus rwyf wedi cynyddu ac atgyfnerthu'r gwaith craffu mae fy swyddfa a mi yn ei wneud. Mae hyn yn cymell mwy o atebolrwydd, gwella tryloywder a rhoi sicrwydd a hyder i mi fod Heddlu Gwent yn gwella ei ymateb i'r materion sydd bwysicaf i'n preswylwyr.”

Wrth gyfeirio at fanylion yr adroddiad, dywedodd Prif Gwnstabl Hobrough: “Rwy’n falch bod HMICFRS wedi ein cydnabod ni fel gwasanaeth eithriadol o ran cofnodi troseddau’n brydlon ac yn gywir, yn arbennig mewn achosion yn ymwneud â throseddau rhywiol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydyn ni wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n ymateb i’r cyhoedd, gan gynnwys ymatebion cyflym cyson i alwadau 999 gan ganolfan gyswllt yr heddlu.

“Yng nghanol y craffu presennol ar ymddygiad swyddogion, mae’n galonogol bod arolygwyr wedi cydnabod ein hymdrechion i sicrhau ymddygiad o safon uchel ymysg ein swyddogion a staff, a’n bod ni wedi meithrin amgylchedd gweithio moesegol lle mae gan ein staff yr hyder i herio ymddygiad gwahaniaethol.

Rydyn ni’n gwneud cynnydd fel gwasanaeth heddlu ac rydyn ni wedi rhoi nifer o raglenni ar waith yn ystod y chwe mis ers yr adroddiad yma i roi sylw i’r meysydd y mae angen eu gwella. Rydyn ni wedi ymroi o hyd i wella ein gwasanaeth i’n cymunedau, yn arbennig o ran amddiffyn pobl agored i niwed a sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.

“Rydyn ni wedi ymroi i gyflawni ein cenhadaeth i wella ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaethu ac rydyn ni’n canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn sefydliad cynhwysol, gofalgar a chyd-gysylltiedig sy’n gallu darparu gwasanaeth rhagorol i bawb yn ein cymunedau.”