Y Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd
Y Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd yw'r prif fforwm lle mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn unol ag adran 1(8) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Y Bwrdd fydd y prif fforwm ymgynghori ar benderfyniadau strategol sy'n effeithio ar y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl hefyd.
Mae'r Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd yn gyfrifol am y canlynol:
- Unrhyw faterion sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth plismona a ddarperir yng Ngwent.
- Gwaith monitro a rheoli cyflawniad yn erbyn Cynllun yr Heddlu a Throsedd.
- Asesu hyfywedd a phenderfyniadau ynghylch ymrwymo i ymgyrchoedd cydweithredol.
- Adolygu gwaith darparu plismona gweithredol trwy wybodaeth am berfformiad.
- Adolygu a monitro gwaith rheoli'r gyllideb gan y Prif Swyddog Cyllid (Prif Gwnstabl).
- Goruchwylio dosbarthiad a lefelau staffio ac adnoddau ar gyfer darparu gwasanaethau heddlu.
- Adolygu ac adnabod pryderon y gymuned ynghylch plismona a rhoi cynlluniau ar waith i roi sylw i'r problemau hynny.
- Trafod unrhyw broblemau sy'n deillio o weithrediad y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, cynllun cydsynio a pholisïau a gweithdrefnau allweddol eraill.
- Diweddariadau ar ddigwyddiadau critigol parhaus a bygythiadau a risgiau strategol. Oherwydd natur sensitif rhai o'r materion a'u lefel dosbarthiad dan gynllun marcio amddiffynnol y llywodraeth, bydd cofnodion yn ymwneud â'r eitemau hyn yn ddarostyngedig i gyfyngiadau cyhoeddi priodol.
- Strategaethau:
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cyfathrebu/Ymgysylltu (yr Heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd)
- Fflyd
- Caffael
- Ystadau
- TGCh
- Rheoli Asedau
- Pobl a Dysgu a Datblygu
- Rheoli Risg
Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Pennaeth Staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd), Prif Swyddog Cyllid Swyddfa'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl. Gall Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r Prif Gwnstabl wahodd pobl eraill i fod yn bresennol yn ôl eu disgresiwn i roi cyngor proffesiynol i'r Bwrdd.
Cylch Gwaith y Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd
Gellir cynnal cyfarfodydd y Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd yn gyhoeddus a byddant yn dechrau am 10am oni bai y nodir yn wahanol. Os ydych chi eisiau bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd ac eisiau clywed y cyfarfod yn Gymraeg, rhowch wybod i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfarfod er mwyn i ni wneud trefniadau priodol.
Mae dyddiadau cyfarfodydd 2025 fel a ganlyn: