Ydych chi’n adnabod arwyddion cam-drin pobl hŷn?

 

Mae camdriniaeth yn gallu effeithio ar unrhyw un. Gall fod yn gorfforol, meddyliol, rhywiol neu ariannol.

Gall cam-drin corfforol gynnwys toriadau, cleisiau, clwyfau, llosgiadau, esgyrn wedi torri, anafiadau heb eu trin, croen mewn cyflwr gwael neu lendid croen gwael, diffyg hylif a/neu faeth, colli pwysau, cadw pobl oddi wrth wasanaethau iechyd a gofal, a dillad wedi difrodi neu eitemau wedi torri yn y cartref.

Gall cam-drin meddyliol gynnwys straeon annhebygol, bod yn amharod i siarad yn agored, dryswch, bod yn grac heb achos amlwg, newidiadau sydyn mewn ymddygiad, bod wedi cynhyrfu a chythryblu’n emosiynol, ofn anesboniadwy neu fod yn dawedog, yn llai siaradus neu’n peidio ymateb.

Gall cam-drin ariannol gynnwys newid i drefniadau bancio, ewyllys neu asedau rhywun, biliau heb eu talu pan fo rhywun arall i fod i’w talu nhw, costau gofal gormodol, eitemau gwerthfawr yn diflannu, a diffyg arian i dalu am anghenion dyddiol fel bwyd.

Mae help ar gael

Age Cymru Gwent
Rhoi amrywiaeth eang o gyngor a chefnogaeth i bobl hŷn gan gynnwys cyngor ar gam-drin pobl hŷn a sgamiau.
Ffoniwch: 01633 240190
Llinellau ar agor rhwng 9am a 2pm, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener.

Byw Heb Ofn
Mae Byw Heb Ofn yn rhoi help a chefnogaeth i bobl sy’n profi camdriniaeth, 24 y dydd 7 diwrnod yr wythnos.
Ffoniwch: 0808 80 10 800
Anfonwch neges destun: 07860 077333

Action Fraud
Rhowch wybod i Action Fraud am dwyll, negeseuon testun amheus, neu seiberdrosedd.
Ffoniwch 0300 123 2040
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am - 8pm neu riportiwch ar-lein: www.actionfraud.police.uk 
Anfonwch neges destun at 7726 gyda’r gair ‘Call’ wedi ei ddilyn gan rif y sgamiwr.

Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, gallwch ffonio’r ffôn testun ar 0300 123 2050.

Heddlu Gwent
Ffoniwch 101 i riportio digwyddiad. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Os nad ydych chi’n gallu siarad, ffoniwch 999 a phwyso 5 5 pan fydd y cysylltydd yn dweud. Bydd cymorth yn cael ei anfon i’ch lleoliad.

Hourglass Cymru
Mae Hourglass yn rhoi help a chefnogaeth gyfrinachol i bobl hŷn sydd mewn perygl.
Ffoniwch: 0808 808 8141
Anfonwch neges destun: 07860 052906

Bwrdd Diogelu Gwent
Os ydych chi’n pryderu bod person hŷn mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod, cysylltwch:

Blaenau Gwent
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk 

Caerffili
Ffôn: 0808 100 2500
E-bost: IAAAdults@caerphilly.gov.uk 

Torfaen
Ffôn: 01495 762200
E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk 

Casnewydd
Ffôn: 01633 656656
E-bost: firstcontact.adults@newport.gov.uk neu pova.team@newport.gov.uk 

Sir Fynwy
Ffôn: 01873 735492
E-bost: MCCadultsafeguarding@monmouthshire.gov.uk 


 

Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn 2023


Dydd Iau 15 Mehefin yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn.

Mae Tîm Rhanbarthol VAWDASV Gwent yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i helpu cymunedau ledled Gwent i adnabod arwyddion ac ymddygiad cam-drin pobl hŷn a deall pa sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth.

Pecyn partner