Cydweithredu

Tarian

Tarian yw ymateb lluoedd de Cymru i drosedd trawsffiniol difrifol a chyfundrefnol, ac mae'n cyfrannu'n sylweddol at eu gallu i ymdrin â throseddau o'r fath. Lansiwyd Tarian gan Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ac mae wedi bod yn gweithredu ers dros 10 mlynedd gyda swyddogion o luoedd de Cymru yn ogystal ag asiantaethau eraill, megis Cyllid a Thollau EM a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae Tarian yn gweithio'n barhaus i gadw'r cyhoedd yn ddiogel rhag troseddau trawsffiniol difrifol a chyfundrefnol, amharu ar y troseddwyr a cheisio'u dal ac adennill yr asedau o'u gweithgareddau troseddol. Mae Tarian yn rhoi mwy o sicrwydd i'n cymunedau na allai un llu yn unig ei roi.

Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU)

Sefydlwyd WECTU yn 2006 a chrëwyd un Gangen Arbennig ar gyfer Cymru gyfran. Mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys terfysgaeth ryngwladol ac eithafiaeth ddomestig ac mae'n cael ei yrru gan Strategaeth Gwrthderfysgaeth y Llywodraeth, CONTEST. Trwy weithio'n gydweithredol nod WECTU yw gweithio'n fwy effeithiol wrth ymateb i'r bygythiad gan derfysgaeth ac eithafiaeth cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n ceisio cadw pobl Gwent yn fwy diogel trwy feithrin hyder ac ymddiriedaeth yn ein cymunedau trwy weithio gyda'r cyhoedd a phartneriaid i ganfod, targedu ac amharu ar derfysgwyr a phobl eithafol.

Yr Uned Arfau Tanio ar y Cyd

Sefydlwyd yr Uned Arfau Tanio ar y Cyd i ddarparu adran arfau tanio arbenigol mwy o faint a mwy cydnerth ar draws lluoedd heddlu Gwent, De Cymru a Dyfed Powys. Yn ogystal â chynnig arbedion posibl wrth ddefnyddio adeiladau, mae'n arwain at arbedion o ran caffael a hyfforddiant. Trwy sicrhau bod swyddogion yn cael eu hyfforddi a'u defnyddio yn yr un ffordd bydd y llu'n darparu gwasanaeth gwell.

Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd

Yn 2009, cytunodd awdurdodau Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru i ddarparu Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd, gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth gwell i'r ddwy ardal. Y dull hwn o weithio ar y cyd oedd y cyntaf o'i fath mewn Gwasanaethau Cyfreithiol yn y gwasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr, ac mae wedi arwain at leihau faint o waith sy'n cael ei anfon at wasanaethau allanol, gwell arbedion, gwell perfformiad, mwy o arbenigedd a gwell cyfleoedd datblygu i staff.

Yr Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd

Mae Heddlu Gwent, De Cymru a Dyfed Powys yn rhannu'r adnodd hwn. Bwriad yr Uned yw gwella galluoedd, cydnerthedd a'r ystod o wasanaethau a gynigir i swyddogion heddlu a thimau troseddau mawr. Mae’r Uned yn arbed miliynau o bunnau o arian cyhoeddus hefyd ac yn darparu gwasanaeth gwell i ddioddefwyr troseddau.

Caffael

Nod y prosiect hwn yw gwella effeithlonrwydd wrth reoli gwaith caffael trwy sefydlu Uned Caffael ar y Cyd 'rhithwir' ar gyfer Heddlu Gwent, De Cymru a Dyfed Powys. Mae'r prosiect yn ceisio sicrhau arbedion, gwella effeithlonrwydd gwaith caffael a darparu canllawiau polisi ac arfer gorau clir.

Cymorth o'r Awyr

Mae Heddlu Gwent yn rhannu ei wasanaeth cymorth o'r awyr gyda Heddlu De Cymru. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi gorchymyn bod cymorth o'r awyr yn cael ei ddarparu fel gwasanaeth cenedlaethol ac mae Gwent wedi bod yn cyfrannu ers mis Gorffennaf 2013. Nod Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu yw cynyddu'r cymorth cyffredinol sydd ar gael o'r awyr yn genedlaethol o 8%, gan gadw ansawdd cymorth o'r awyr yn gyson a rhoi mwy o sicrwydd i bobl Gwent.

Gwasanaethau Fforensig

Mae cytundeb gwasanaethau fforensig ar y cyd ar waith ar gyfer caffael gwasanaethau gwyddoniaeth fforensig ar y cyd ar gyfer de-orllewin Lloegr, Cymru a gogledd-orllewin Lloegr (sy'n cynnwys 14 ardal heddlu). Trwy rannu ei arbenigedd ei nod yw datblygu canolfan ragoriaeth ranbarthol ar gyfer gwasanaethau fforensig.

Gwasanaeth Rhannu Adnoddau

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae'r Gwasanaeth Adnoddau ar y Cyd wedi creu swyddogaeth TGCh cydweithredol ar gyfer Heddlu Gwent a chynghorau Torfaen a Sir Fynwy, gyda'r gallu i ehangu yn y dyfodol i gyflwyno partneriaid eraill.