Etholiad
Mae comisiynwyr heddlu a throsedd yn cael eu hethol bob pedair blynedd.
Bydd etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael ei gynnal ar 2 Mai 2024.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad yn ChooseMyPCC.org.uk
Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad. Gallwch gofrestru ar wefan Llywodraeth y DU.
Eich Llais, Eich Heddlu (Gwybodaeth gan Y Gymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd am y pum maes gwaith sy’n dangos sut mae comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn gweithio i’w cymunedau)
Gwybodaeth i ymgeiswyr
I ddarllen am swyddogaethau a chyfrifoldebau comisiynydd heddlu a throsedd, ewch i wefan Y Swyddfa Gartref.
Os hoffai ymgeiswyr am y rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sgwrs anffurfiol am y swydd a chyfrifoldebau, neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall, cysylltwch â Siân Curley, Prif Weithredwr ar sian.curley@gwent.police.uk
Ynglŷn ag Uned Gyswllt yr Heddlu
Mae Uned Gyswllt yr Heddlu’n gweithio i’r pedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ac yn adrodd wrthynt. Mae’r tîm yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid strategol eraill, megis Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi a sectorau eraill; er mwyn trafod a dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol yng Nghymru. Darllen mwy.
Ymwelwyr annibynnol â dalfeydd
Mae gan bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddyletswydd gyfreithiol i redeg cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, lle mae aelodau lleol o’r cyhoedd yn gwirfoddoli i wasanaethu fel Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd gan ymweld yn rheolaidd ac yn ddirybudd â dalfeydd yr heddlu i wirio hawliau a llesiant y rhai a gedwir yn y ddalfa yn ogystal â'r amodau y maent yn cael eu cadw ynddynt.
CANLLAW I DDYLETSWYDDAU COMISIYNWYR
HEDDLU A THROSEDDU I REDEG CYNLLUN
YMWELWYR ANNIBYNNOL Â DALFEYDD