Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) cafodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei greu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn gwella gwaith partner rhwng gwasanaethau cyhoeddus.

Mae un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent.

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys aelodau statudol ac aelodau gwadd. Yr aelodau statudol yw: awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, awdurdodau tân ac achub a Cyfoeth Naturiol Cymru; mae aelodau gwadd yn cynnwys prif gwnstabliaid, comisiynwyr yr heddlu a throsedd a sefydliadau gwirfoddol.

Mae’r Comisiynydd a’i Brif Weithredwr yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gydweithio gyda phartneriaid i hybu diogelwch cymunedol a chefnogi gwaith sy’n cyflawni pum blaenoriaeth y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Mwy o wybodaeth am waith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus