Budget 2017-18
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2017/18
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2018/19 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2017/18 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (Saesneg yn unig)
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2017/18 mae'r Comisiynydd wedi ystyried y Cynllun Heddlu a Throseddu, barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun, lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad cyllideb o £120,942,177 ar gyfer 2017/18;
- Arbedion arfaethedig o £7.480 miliwn yn 2017/18 ac arbedion arfaethedig pellach o £9.357 miliwn a nodir yn Atodiad 4, 5a a 5b o'r Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 7)
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiad 8; a
- Phraesept arfaethedig ar gyfer 2017/18 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £49,455,388 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £228.84) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol |
£ |
Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent |
4,607,439 |
20,133.89 |
Caerffili |
13,659,421 |
59,689.83 |
Sir Fynwy |
10,420,849 |
45,537.71 |
Casnewydd |
13,185,752 |
57,619.96 |
Torfaen |
7,581,927 |
33,132.00 |
Cyfanswm |
49,455,388 |
216,113.39 |
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor |
£ |
A |
152.56 |
B |
177.99 |
C |
203.41 |
D |
228.84 |
E |
279.69 |
F |
330.55 |
G |
381.40 |
H |
457.68 |
I |
533.96 |
Annex (Saesneg yn unig)
Appendices (Saesneg yn unig)
Police and Crime Panel Report
Response to Police and Crime Commissioner including a Recommendation regarding the Proposed Precept for 2017/18 (Saesneg yn unig)
Police and Crime Commissioner Report
Response to Police and Crime Panel Precept Recommendation 2017/18 (Saesneg yn unig)
Decision Log Approving the Budget for 2017/18 - decision log PCCG-2017-006 (Saesneg yn unig)