Cyllideb 2015-16
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2015/16
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2018/19 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2015/16 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2015/16 mae'r Comisiynydd wedi ystyried y Cynllun Heddlu a Throseddu, barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun, lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad cyllideb o £117,773,547 ar gyfer 2015/16;
- Arbedion arfaethedig a defnydd o arian wrth gefn o £6.027 miliwn yn 2015/16 y ceir manylion amdanynt yn Atodiadau 4a, 4b, 4c, 5a a 5b yr atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiad 8;
- Defnydd arfaethedig pellach yr arian wrth gefn (Atodiad 7); a
- Praesept arfaethedig ar gyfer 2015/16 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £44,856,814 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £211.62) a bydd y swm hwn yn cael ei rhannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol |
£ |
Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent |
4,193,286 |
19,815.17 |
Caerffili |
12,552,905 |
59,318.14 |
Sir Fynwy |
9,430,071 |
44,561.34 |
Casnewydd |
11,757,615 |
55,560.04 |
Torfaen |
6,922,937 |
32,714.00 |
Cyfanswm |
44,856,814 |
211,968.69 |
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor |
£ |
A |
141.08 |
B |
164.59 |
C |
188.11 |
D |
211.62 |
E |
258.65 |
F |
305.67 |
G |
352.70 |
H |
423.24 |
I |
493.78 |
Cofnod Penderfyniadau yn Cymeradwyo’r Gyllideb ar gyfer 2015/16 - Cofnod Penderfyniadau PCCG-2015-001