Cyllid a Ddyfarnwyd 2019-20
Rhif Penderfyniad |
Sefydliad | Swm a Ddyfarnwyd |
Ardal |
Pwrpas | Rheswm dros y Dyfarniad |
Amodau Ynghlwm â'r Dyfarniad |
PCCG-2019-073 | Duffryn Community Link | £25,058.82 | Casnewydd | Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gyntaf yn 2018/19(rhif penderfyniad PCCG-2019-051) a dyrannwyd cyllid dwy flynedd iddo mewn egwyddor yn amodol ar dderbyn adroddiadau boddhaol. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-073 | Creazione in the Community | £20,900 | Caerffili |
Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gyntaf yn 2018/19(rhif penderfyniad PCCG-2019-051) a dyrannwyd cyllid dwy flynedd iddo mewn egwyddor yn amodol ar dderbyn adroddiadau boddhaol. |
Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-073 | The Gap Cymru | £15,000 | Casnewydd |
I ddarparu prosiect Sanctuary o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020, sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc, gan ddarparu cymorth, cyngor a gweithgareddau cymdeithasol perthynol a chyfannol iddynt. |
Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-073 | Clwb Bocsio Amatur Alway | £20,000 | Casnewydd | I ddarparu prosiect Stop Stabbing Start Jabbing - 5pm-7pm dydd Mawrth a dydd Iau - a 10am - 2pm dydd Sadwrn, o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020. Bydd y prosiect yn darparu rhaglenni bocsio / mentora i bobl sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol neu sydd wedi bod yn ddioddefwyr trosedd ifanc. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-073 | Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân | £40,314.72 | Cwmbrân | Tuag at ddarparu'r Prosiect Galw Heibio Mynediad Agored o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020. Bydd yn cynnwys sesiwn galw heibio am bum noson yr wythnos mewn amgylchedd diogel, sy'n rhoi gwasanaeth, gweithgareddau a chymorth pwrpasol, a bydd cwnselwyr a mentoriaid ar gael i'r bobl ifanc sy'n bresennol. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-073 | Cymru Creations | £25,000 | Blaenau Gwent | Darparu prosiect Academi Ffilm Blaenau Gwent o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020, a fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc greu cyfres o ffilmiau byrion yn canolbwyntio ar broblemau a phryderon cyfredol. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-073 | County in the Community | £11,807.50 | Casnewydd | Tuag at ddarparu'r prosiect Premier League Kicks yn Ringland - rhedeg o 1 Tachwedd 2019 tan 31 Hydref 2020. Darperir sesiynau wythnosol ar ddydd Iau y tu allan i oriau ysgol. Darperir cyfleoedd dysgu hefyd i wella datblygiad a lles pobl ifanc. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-051 | Grwpiau Ieuenctid Bryn Farm a Choed Cae | £40,151 | Blaenau Gwent | Tuag at brosiect rhwng y cenedlaethau a fydd yn rhoi sylw i gydberthnasau rhwng pobl hŷn a phobl ifanc. Bydd yn rhoi sylw i ddatblygiad personol unigolion, materion iechyd meddwl unigol a chysylltiedig, datblygiadau addysgol a rhyngweithio cymdeithasol. Bydd y rhaglen weithgareddau'n cynnwys cyfleoedd i bobl ifanc arwain gweithgareddau yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol a chreu ymrwymiad i ddatblygiad personol. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-051 | Gwasanaeth Eiriolaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Ifanc | £49,909 | Blaenau Gwent | Tuag at brosiect sy'n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y prosiect yn helpu i chwalu rhwystrau i ymgysylltu gyda gwahanol wasanaethau (e.e. sefydliadau addysg a sefydliadau yn y gymuned) yn ogystal â meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol, codi dyheadau a meithrin hyder. Bydd y prosiect yn defnyddio eiriolaeth a dull seiliedig ar hawliau i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed a'u safbwyntiau'n cael eu gwerthfawrogi. Bydd gwasanaethau pwrpasol yn cael eu darparu i gefnogi pobl ifanc ar sail un i un hefyd, i'w helpu nhw gyda'u problemau a'u cyfeirio nhw at wasanaethau eraill. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-051 | Urban Circle Productions | £50,000 |
Casnewydd |
Tuag at Gam 2 prosiect U Turn a dderbyniodd gyllid ar gyfer Cam 1 yn 2018/19. Bydd y prosiect yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar gelf greadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol lluosog sy'n effeithio ar bobl ifanc bregus. Bydd y prosiect yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio a threfnu gwahanol ddigwyddiadau (e.e. Calan Gaeaf) a gweithdai, gan dderbyn atgyfeiriadau ble y bo'n briodol. Bydd yn darparu hyfforddiant sgiliau bywyd ac yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc ennill cymwysterau mewn gwahanol feysydd (e.e. Cymorth Cyntaf, Diogelu a Gwaith Ieuenctid). | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
Total | £298,141.04 |