Cyllid a Ddyfarnwyd 2018-19
Rhif Penderfyniad |
Sefydliad | Swm a Ddyfarnwyd | Ardal | Pwrpas | Rheswm dros y Dyfarniad | Amodau Ynghlwm â'r Dyfarniad |
PCCG-2018-046 | Urban Circle Productions | £48,620 | Casnewydd | Tuag at y prosiect U-Turn a fydd yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar gelf greadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol lluosog sy'n effeithio ar bobl ifanc bregus. Bydd y prosiect yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio a threfnu gwahanol ddigwyddiadau, darparu hyfforddiant sgiliau bywyd a rhoi cyfle i'r bobl ifanc ennill cymwysterau mewn gwahanol feysydd e.e. cymorth cyntaf, gwaith ieuenctid a diogelu. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2018-046 | Cymorth i Fenywod Casnewydd | £9,830 | Casnewydd | Tuag at y Parth Ieuenctid Aspire a fydd yn darparu lle ar gyfer plant a phobl ifanc 11-16 oed sydd wedi cael eu heffeithio gan, wedi bod yn agored i ac wedi cael eu dylanwadu gan gam-drin domestig. Bydd mentoriaid cadarnhaol yn cael eu darparu hefyd a bydd y prosiect yn cydweddu â gweithgareddau partneriaeth presennol, yn darparu cymorth integredig a chyd-gysylltiedig i'r teulu a fydd yn ymgysylltu â theuluoedd bregus ac yn rhoi cymorth iddynt. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-027 | Dolen Gymunedol Dyffryn | £24,904.53 | Casnewydd | Cyllid i’r prosiect Dolen Ieuenctid – i dalu am weithwyr ieuenctid, llogi lleoliadau, offer a gweithgareddau ac ati. Bydd y prosiect yn darparu gweithgareddau dargyfeirio y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau i bobl ifanc 8-16 oed gan gefnogi, ymgysylltu ac annog pobl ifanc i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymuned ar yr un pryd. Bydd cyfleusterau galw heibio i blant a phobl ifanc 11-18 oed ar gael hefyd i ganfod unigolion neu grwpiau sy'n peri problemau; i ddarparu datrysiadau cadarnhaol i grwpiau neu unigolion. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-027 | Volunteering Matters | £2,250 | Gwent gyfan | Tuag at y prosiect ffilm Safe Male a fydd yn cynnwys cyfranwyr at y prosiect Safe Male sydd ag anghenion ac anableddau dysgu (16-35 oed) i ddatblygu DVD o ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o iechyd a chydberthnasau rhywiol priodol i ddynion gydag anabledd a thynnu sylw at beryglon camdriniaeth, yn arbennig o ran Troseddau Cyfeillio. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2018-046 | Regener8 Cymru | £70,000 | Torfaen | Tuag at brosiect Cydberthnasau Cadarnhaol a fydd yn darparu sesiynau i bobl ifanc mewn ysgolion, clybiau ieuenctid, gwasanaethau troseddau ieuenctid ac ati ar wahanol bynciau: parch mewn cydberthnasau, cam-drin domestig, stereoteipio ar sail rhyw, cydsyniad rhywiol, secstio, pornograffi, cam-fanteisio rhywiol a chanfyddiadau. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-027 | Xcelerate Youth | £12,000 | Torfaen | Tuag at gyflogi gweithiwr teuluoedd / ymarferydd cwnsela a fydd yn gweithio ochr yn ochr â phlant gydag ymddygiad heriol a'u teuluoedd. Nod y prosiect fydd helpu i atal a/neu ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol; rhoi cymorth i ddioddefwyr, helpu i ddatblygu pobl ifanc yn gadarnhaol a gwella cydlyniant cymunedol. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-051 | Tŷ Cymunedol | £39,121 | Casnewydd | Tuag at Brosiect Ieuenctid Maendy ‘Schools Out’, a fydd yn cynyddu gweithgarwch ieuenctid yn ystod gwyliau ysgol i gyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad negyddol a hyrwyddo cydberthnasau cadarnhaol.Cytunwyd ar y cyllid hwn yn hwyr felly er ei fod wedi ei ddosrannu o Gronfa 18/19, cafodd ei ddyfarnu yn ystod blwyddyn ariannol 19/20. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
PCCG-2019-051 | Creazione in Community | £39,600 | Caerffili | Tuag at brosiect a fydd yn ganolfan un stop sy'n cynnig gweithgareddau dargyfeiriol. Bydd y clwb cymuned yn cynnig darpariaeth leol i bobl ifanc a lle diogel, llawn hwyl i fynychu sesiynau wythnosol gyda'r nos ac ar benwythnos pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei waethaf. Cytunwyd ar y cyllid hwn yn hwyr felly er ei fod wedi ei ddosrannu o Gronfa 18/19, cafodd ei ddyfarnu yn ystod blwyddyn ariannol 19/20. | Bodloni’r meini prawf cyllid | Adroddiad monitro canlyniadau o fewn un flwyddyn |
Total: | £246,325.53 |