Archif Grantiau
Y Gronfa Bartneriaeth
Rhwng 2013-2017, sefydlodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu gronfa flynyddol o isafswm o £150,000, a gynlluniwyd i gynorthwyo elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy’n rhan o weithgareddau sy’n cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yng Ngwent, a helpu i gyflawni blaenoriaethau’r Comisiynydd ar yr un pryd.
Roedd yr arian yn y Gronfa yn dod o arian a adenillwyd drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau; Deddf Eiddo'r Heddlu; a lle y bo angen, ychwanegir ati o gyllideb gyffredinol y Comisiynydd. Gweinyddwyd proses gynnig ffurfiol gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a chraffwyd ar gynigion gan banel o gynrychiolwyr Swyddfa'r Comisiynydd, yr Heddlu, Fforwm Ieuenctid Gwent, grwpiau cymunedol a phartneriaid eraill.
Arian a Ddarparwyd:
Yn ystod 2013/14, ni chafodd arian a adenillwyd drwy Ddeddf Eiddo’r Heddlu ei gynnwys yn y Gronfa Bartneriaeth. Yn lle hynny, defnyddiwyd yr arian fel cronfeydd ariannu ar wahân. Cyfunwyd yr arian ar gyfer Cronfa Bartneriaeth 2014/15.
Arian a ddarparwyd drwy Ddeddf Eiddo'r Heddlu yn 2013/14
Cronfa Gomisiynu
Roedd ail elfen gweithgarwch Haen 2 yn ymwneud â ‘Chronfa’r Comisiynydd’, a sefydlwyd i ysgogi mentrau cymunedol a gweithgarwch comisiynu i gyflawni blaenoriaethau’r Comisiynydd.