Cofnodion Penderfyniadau ar gyferALL
107 Penderfyniadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent o Pob blwyddyn
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2018 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-009
Mae'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn gynllun statudol dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cyhoeddus Rhan 3 Adran 299, y mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu'n gyfrifol amdano ac yn ei oruchwylio, mewn trafodaeth â'r Prif Gwnstabl.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 6 Medi 2018 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-008
Mae'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn gynllun statudol dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cyhoeddus Rhan 3 Adran 299, y mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu'n gyfrifol amdano ac yn ei oruchwylio, mewn trafodaeth â'r Prif Gwnstabl.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract ar gyfer cyflenwi Cyrsiau Cenedlaethol Adsefydlu Gyrwyr gyda TCC Group am bedwar mis arall yn unol â pharagraff 124(b) y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-005
Bydd yr estyniad o bedwar mis yn dechrau ar 1 Chwefror 2019 a bydd yn dod i ben ar 31 Mai 2019. Bydd telerau ac amodau'r contract gwreiddiol yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract gyda Solo Service Group Ltd sy'n dod i ben ar 3i Mawrth 2019 tan 30 Medi 2019, am bedwar mis i ddechrau ac estyniad pellach o ddau fis unigol.
PCCG-2019-003
Mae'r cais am estyniad na ellid ei ragweld er mwyn caniatáu amser i gynnal proses dendro sy'n cydymffurfio.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019-20 i 2021-22 ac Arferion Rheoli'r Trysorlys.
PCCG-2019-002
Mae’n ofynnol bod y Comisiynydd yn mabwysiadu a chydymffurfio â Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol a Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Trysorlys. Cytunwyd ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2019/20 i 2021/22 ac Arferion Rheoli'r Trysorlys er mwyn cydymffurfio â'r codau.
Mae'r Comisiynydd wedi monitro Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2018 tan 31 Hydref 2018.
PCCG-2019-001
Mae Rheoli'r Trysorlys yn cynnwys benthyca, buddsoddi, bancio a rheoli llif arian.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn adroddiad gan Heddlu Gwent yn dangos manylion gwaith yr adran Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn ystod 2017-18.
PCCG-2018-049
Mae'r Comisiynydd wedi cytuno i dderbyn yr adroddiad hwn gyda chafeat bod y fformat a'r cynnwys yn cael eu diwygio yn adroddiad blynyddol 2018/19 er mwyn bodloni ei ofynion monitro.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn adroddiad blynyddol sy'n cynnwys manylion y gweithgareddau gwirfoddoli yn y portffolio Dinasyddion yn y Maes Plismona.
PCCG-2018-048
Mae'r meysydd gwirfoddoli'n cynnwys yr heddlu gwirfoddol, cadetiaid heddlu gwirfoddol, Heddlu Bach, gwirfoddolwyr cymorth yr heddlu, paneli atal troseddu a'r Grŵp Cynghori Annibynnol.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofrestrau Rhoddion a Lletygarwch a Buddiannau Busnes Heddlu Gwent ar gyfer 2017-18.
PCCG-2018-047
Mae'r Comisiynydd yn fodlon bod pob datganiad gan swyddogion a staff wedi cael eu gwneud o fewn ffiniau derbynioldeb yn unol â'r polisïau a gweithdrefnau perthnasol.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2018 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2018-045