Cofnodion Penderfyniadau ar gyferALL
107 Penderfyniadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent o Pob blwyddyn
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro perfformiad ei swyddfa yn ystod 2018/19 mewn perthynas â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
PCCG-2019-019
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi mynediad at wybodaeth sy'n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus. O dan y Ddeddf, mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gyhoeddi gwybodaeth benodol am eu gweithgareddau. Cyfeirir at hwn fel Cynllun Cyhoeddi. Mae gan aelodau'r cyhoedd hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth gofnodedig sy'n cael ei chadw amdanyn nhw hefyd.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract ar gyfer cyflenwi Cyrsiau Cenedlaethol Adsefydlu Gyrwyr gyda TCC Group am chwe (6) mis arall yn unol â pharagraff 124(b) y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-017
Bydd yr estyniad am chwe (6) mis yn dechrau ar 1 Mehefin 2019. Bydd y contract yn cael ei ymestyn gyda'r cyflenwr tan 31 Awst 2019 i ddechrau a bydd yn cael ei ymestyn eto tan 30 Tachwedd 2019 os oes angen.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau partner ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.
PCCG-2019-014
Bu panel adolygu yn cynnwys cynrychiolwyr o Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Heddlu Gwent a Phartneriaeth Gwent Mwy Diogel yn ystyried dyrannu cyllid i sefydliadau a gwnaeth argymhellion mewn perthynas â phob cais. Ystyriwyd argymhellion y panel gan banel penderfynu a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent ar 1af Chwefror 2019 lle y cytunwyd mai'r cyfanswm a fyddai’n cael ei ddyrannu i sefydliadau llwyddiannus fyddai £725,853.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro'r gwaith craffu annibynnol a wnaed gan y Panel Craffu ar Gyfreithlondeb ar ddefnydd Heddlu Gwent o bwerau stopio a chwilio a defnyddio grym.
PCCG-2019-015
Digwyddodd ymarfer y Panel Craffu ar Gyfreithlondeb ym mis Hydref 2018.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-016
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli Asedau 2019-2022.
PCCG-2019-007
Mae'r Comisiynydd yn gyfrifol am gymeradwyo'r fframwaith atebolrwydd cyffredinol a rheoli a monitro cydymffurfiaeth mewn perthynas â rheoli asedau, fel yr amlinellir yn Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, paragraff 1.1.4. Cymeradwywyd y Strategaeth yng nghyfarfod y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2019.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo’r diwygiadau i'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-004
Mae'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei adolygu bob blwyddyn gan y Grŵp Cynllunio Strategol. Argymhellodd y Cydbwyllgor Archwilio ar y Cyd y dylid cymeradwyo'r diwygiadau a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019 cyn ceisio cymeradwyaeth terfynol gan y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl yng nghyfarfod y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad ar 6 Mawrth 2018.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal arolwg o ffeiliau sy'n ymwneud â chwynion yn erbyn swyddogion a staff Heddlu Gwent.
PCCG-2019-011
Mae'r Comisiynydd yn fodlon bod y Prif Gwnstabl wedi ymdrin yn briodol â'r cwynion a archwiliwyd ganddo.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi estyniad i'r fframwaith ar gyfer darparu gwasanaeth difa a gwaredu gwastraff gyda marc diogelu yn unol â pharagraff 124(b) Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-013
Mae'r contract wedi cael ei ymestyn am chwe mis o 1 Ebrill 2019 tan 31 Hydref 2019.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cadarnhau'r Gyllideb Heddlu a Throseddu ar gyfer 2019-20.
PCCG-2019-010
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2019/20 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn trafodaeth â'r Panel Heddlu a Throseddu.