Dadansoddiad Cydraddoldeb

Dadansoddiad cydraddoldeb yw'r dull a ddefnyddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ddangos ei bod yn talu sylw dyledus i gydraddoldeb wrth ddatblygu a gweithredu newidiadau i strategaeth, polisi ac arfer.  Mae'n disodli'r broses flaenorol o asesu'r effaith ar gydraddoldeb. Mae hefyd yn talu sylw dyledus i amcanion y ddyletswydd gyffredinol wrth wneud penderfyniadau ac wrth bennu polisïau.

Mae dau bwrpas i ddadansoddiad cydraddoldeb:

  1. Canfod canlyniadau anfwriadol a'u lliniaru cyn belled â phosibl, ac
  2. Ystyried sut gallai newid i bolisi gefnogi'r gwaith o hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cydberthnasau da.

Mae angen i newidiadau sy'n cael eu cynnig trwy bolisi, neu benderfyniadau a wneir gan y Comisiynydd gael eu dadansoddi o safbwynt cydraddoldeb a rhaid ystyried y canlyniadau cyn gwneud y penderfyniadau hynny. Os nodir effeithiau negyddol, mae angen ystyried lliniaru'r effeithiau hynny.

Mae canfyddiadau'r dadansoddiad yn cael eu cofnodi ac mae’r Comisiynydd yn cael ei hysbysu amdanynt er mwyn iddo eu hystyried cyn gwneud penderfyniadau.  


Asesiadau o Effaith

Business Interests Policy & Procedure - May 2020

Polisi Rheoli Cofnodion - Mai 2020​​​​​​​​​​​​​​

Polisi Cyswllt Cwsmer - Rhagfyr 2019​​​​​​​

Polisi a Gweithdrefn Rhoddion a Lletygarwch - Medi 2019

Gwent Mwy Diogel - Ionawr 2015     

Adsefydlu - Tachwedd 2014  

Diogelwch Cymunedol Strategol - Tachwedd 2014

Atal Trosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Tachwedd 2014

Gwasanaethau a Chyngor i Ddioddefwyr - Tachwedd 2014 

Gweithdrefn Cwynion yn ymwneud â Safonau’r Gymraeg (Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb)

Bwriadau Comisiynu Strategol - Tachwedd 2014

Canolfan Dioddefwyr a Thystion - Medi 2014

Asesiad o Effaith Ariannol - Ionawr 2014