Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn cynnal digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid blynyddol i alluogi pobl ifanc i ofyn cwestiynau i bobl sy'n gwneud penderfyniadau.

Mae'n cael ei gynnal gan bobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau i banel o weithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn amrywiaeth eang o faterion y mae pobl ifanc wedi dweud sydd o bwys iddyn nhw.

Digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid Gwent 2023

Mae digwyddiad eleni'n cael ei gynnal ym Mharth Dysgu Torfaen 6pm – 8pm ddydd Mercher 15 Mawrth.

Y bobl ar y panel fydd:
• Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.
• Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent.
• Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru.
• Dr Jane Dickson, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Rydyn ni'n falch o gael cefnogaeth gan amryw o sefydliadau gan gynnwys Fearless, Cymorth Cyffuriau ac Alcohol Gwent N-gage, Cadetiaid Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a llawer mwy, a fydd wrth law i roi gwybodaeth a chyngor cyn y digwyddiad.

Gofynnodd y bobl ifanc 17 cwestiwn, yn canolbwyntio ar amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys effaith yr argyfwng costau byw ar blismona, ymddygiad gwrthgymdeithasol, sut mae Heddlu Gwent yn defnyddio'r Gymraeg yn y sefydliad, llinellau cyffuriau, tlodi mislif, mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol, yr amgylchedd ac iechyd meddwl. Mae'r graffeg isod yn dangos y meysydd trafod a rhai o'r atebion gan y panel.  

Gadawyd llawer o gwestiynau heb eu hateb oherwydd nad oedd digon o amser, ond rydym yn falch i rannu atebion gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Chomisiynydd Plant Cymru: 

 

Pan fydda’ i a fy ffrind yn yr ysgol uwchradd mae dau fachgen ym mlwyddyn 9 sy'n ein pryfocio a'n bwlio. Beth ellir ei wneud i wneud i fy ffrindiau a fi deimlo'n fwy diogel wrth gerdded i'r ysgol ac yn ôl yn aml rhag pobl ifanc eraill?

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Ni ddylid byth oddef bwlio, a byddem yn eich cynghori i roi gwybod am hyn i'ch rhiant neu'ch gwarcheidwad, athro, swyddog cyswllt heddlu ysgol, gweithiwr ieuenctid neu oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo.

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Byddwn i’n awgrymu siarad ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo ef neu hi yn yr ysgol. Rhywun rydych chi'n credu bydd yn cymryd y broblem o ddifrif a gweithio gyda'r disgyblion i roi prawf ar ddefnyddio dulliau adferol, sy'n golygu gweithio gydag unigolion i ganfod pam maen nhw'n ymddwyn fel hyn a sut gallan nhw weithio i roi terfyn arno (mae llawer o ysgolion yng Nghymru'n defnyddio dulliau adferol i ymdrin â phroblemau ymddygiad). Gallai'r ysgol wneud mwy o waith gyda'r ysgol gyfan hefyd trwy wasanaethau ysgol a sesiynau ystafell ddosbarth yn defnyddio egwyddorion y cwricwlwm newydd a dulliau adferol presennol i gryfhau'r neges o ofalu, goddefgarwch a pharch. Cofiwch, mae ambell i ymddygiad yn gallu bod yn fwy na bwlian a gall fod yn drosedd neu'n drosedd casineb, felly os yw hyn yn digwydd mae'n bwysig bod y mater yn cael ei riportio i'r ysgol neu'r heddlu, a dylech gael cefnogaeth i deimlo ei bod yn ddiogel i chi adrodd am y mater."

Mae Meic Cymru'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc https://www.meiccymru.org/ neu ffoniwch 080880 23456 i siarad â rhywun neu anfonwch neges destun at 8400.

 

Mae dau berson ar fy mws ysgol yn fêpio, sut ydych chi'n mynd i stopio hyn?

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Mae angen i chi fod yn 18 oed neu hŷn i brynu cynhyrchion fêpio ac mae'n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed brynu fêp. Bydd Heddlu Gwent yn ymchwilio i unrhyw adroddiadau o siopau sy'n gwerthu fêp i blant dan 18 oed. Fodd bynnag, nid oes deddfau sy'n gwahardd fêpio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn benodol. Bydd gan y cwmni sy'n gweithredu'r bws ysgol ei bolisi ei hun o ran a ganiateir hyn ai peidio. Byddem yn eich cynghori i godi'r mater hwn gyda'ch athro neu'ch gweithiwr ieuenctid.

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Mae hwn yn gwestiwn ofnadwy o anodd ac mae gen i blant yn eu harddegau fy hun. Mae defnyddio e-sigaréts yn aml yn digwydd oherwydd pwysau gan gyfoedion.  Mae llawer o dystiolaeth ymchwil yn awgrymu bod pobl yn eu harddegau yn fwy tebygol o gymryd risgiau wrth dyfu i fyny.  Mae angen i ymdrechion i rwystro e-sigaréts fod yn ymdrechion cyfunol gan oedolion i leihau pa mor agored yw pobl ifanc i gynhyrchion e-sigaréts. Gall llywodraethau osod rheolau mwy llym ar gynhyrchion e-sigaréts, fel marchnata cynnyrch, pecynnu a sut a ble maen nhw ar gael.  Rwyf wedi trafod hyn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac rwy'n falch i glywed eu bod yn gweithio ar ganllawiau i helpu ysgolion i fynd i'r afael â'r broblem pan fydd yn digwydd mewn ysgolion.  Byddaf yn codi'r mater gyda'r Gweinidog Iechyd hefyd yn ein cyfarfod nesaf, a gyda'r Gweinidog Addysg hefyd.  Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Cludiant beth yw'r rheolau ar gyfer cwmnïau bysus, felly gobeithio y gall hynny helpu i stopio hyn hefyd."

 

Pa gefnogaeth sydd yna i bobl draws a beth sy'n cael ei wneud am driniaeth wael a throseddau tuag at bobl draws?

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Mae trawsffobia yn drosedd gasineb. Mae'n cael ei gymryd o ddifrif gan Heddlu Gwent, mae'r llu wedi cael ei gydnabod gyda marc ymddiriedaeth gan Cymorth i Ddioddefwyr i gydnabod y camau a gymerwyd i wella ei ymateb a'i gefnogaeth i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd yn rhoi arian i Umbrella Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth arbenigol i bobl draws sy'n dioddef troseddau.

Mae grŵp ieuenctid i bobl ifanc a chynghreiriaid LHDTQ+ rhwng 11-18 oed yng Ngwent o'r enw #FreeToBe. Caiff y grŵp ei gydlynu gan Umbrella Cymru ac mae'n cwrdd ar-lein ac wyneb yn wyneb bob pythefnos. Am fwy o wybodaeth: https://www.umbrellacymru.co.uk/

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Mewn arolwg diweddar o blant a phobl ifanc, roedd canlyniadau iechyd a lles yn waeth i bobl sydd ddim yn uniaethu fel bachgen na merch ar draws nifer o ddangosyddion.

"Mae hyn yn achos pryder mawr i mi. Rwy'n gwybod hefyd bod pobl ifanc traws a rhai sy'n cwestiynu rhywedd yn fwy tebygol o wynebu bwlian a gwahaniaethu. Er nad oes gen i bŵer dros yr heddlu a throsedd, rwy'n gallu ysgogi newidiadau yn yr ysgol fel bod cyfoedion, athrawon a rhieni'n deall plant traws a rhai sy'n cwestiynu rhywedd yn well. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio ar ganllaw i ysgolion ar hyn o bryd a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn yr haf. Byddwch yn gallu lleisio barn ar y canllaw, sydd wedi cael ei gynllunio i helpu ysgolion i roi gwell cefnogaeth i blant traws a rhai sy'n cwestiynu rhywedd ym mhob agwedd ar eu bywyd ysgol.

"Mae cefnogaeth dda ar gael i bobl ifanc traws: https://genderedintelligence.co.uk/

 

Beth ydych chi'n ei wneud i'n cadw'n ddiogel ar y strydoedd?


Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Mae Heddlu Gwent yn gweithio mewn cymunedau bob dydd i gadw pobl yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cynnal presenoldeb 'gweladwy' ar ffurf patrolau mewn ardaloedd allweddol, ond hefyd gwaith nad yw efallai mor weladwy, fel mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, sydd yn ei dro yn helpu i leihau troseddau ar y stryd fel delio cyffuriau a lladrata.

 

Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem gynyddol yn ein cymdeithas. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem oherwydd yn anffodus maen nhw ar gael yn eang?

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn gofyn am ddull partneriaeth. O safbwynt plismona, mae Heddlu Gwent yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol i darfu ar gyflenwad ac argaeledd sylweddau anghyfreithlon yn ein cymunedau.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn darparu cyllid blynyddol i Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent i gefnogi pobl y mae cysylltiad rhwng eu troseddu â’u dibyniaeth ac mae gwasanaeth arbenigol, Gwent N-Gage, sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd.

Am fwy o wybodaeth: https://barod.cymru/cy/ble-i-gael-help/gwasanaethau-de-ddwyrain/gwent-n-gage/

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi cau ymgynghoriad yn ddiweddar ar ddogfen a oedd yn edrych ar fframwaith ar y cyd ledled Cymru i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau. Mae'r fframwaith yma'n sôn am gysylltu â gwasanaethau eraill fel iechyd meddwl. Mae hefyd yn sôn am bwysigrwydd addysg yn yr ysgol i helpu i atal problemau gyda sylweddau rhag datblygu. Byddaf yn cadw llygad ar y gwaith hwn nawr bod yr ymgynghoriad wedi cau i weld sut gall gwasanaethau ddatblygu i gefnogi plant a phobl ifanc.

"Cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd lle gwnaethom ni siarad am gamddefnyddio sylweddau, ac ysmygu'n benodol.  Mae ganddyn nhw raglen waith rhoi'r gorau i ysmygu sy'n cynnwys gweithio gyda llysgenhadon ieuenctid rhoi'r gorau i ysmygu. Gwnaethom drafod problem e-sigaréts hefyd a sut mae angen gwaith i helpu i leihau effaith y rhain ar blant a phobl ifanc. Maen nhw'n bwriadu rhoi canllawiau i ysgolion i helpu gyda'r broblem e-sigaréts.

Am ragor o wybodaeth: https://barod.cymru/where-to-get-help/service-2/gwent-n-gage/

 

Mae'n galonogol gwybod bod y gymuned yn gallu derbyn gwasanaethau gan yr heddlu drwy gyfrwng y Gymraeg. Faint o alw sydd yna am wasanaethau, ac ydych chi'n credu bod digon yn cael ei wneud i hyrwyddo ei ddefnydd?

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Mae'r galw am wasanaethau Cymraeg yn cael ei adolygu a'i fonitro gan Heddlu Gwent a swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Nid yw Heddlu Gwent yn derbyn llawer o geisiadau na galwadau yn Gymraeg ond mae'r llu yn deall y gallai wneud mwy i hyrwyddo ei wasanaethau yn y Gymraeg i gymunedau ar draws Gwent. Mae swyddogion a staff yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i hybu eu defnydd yn y gweithle a gyda thrigolion mewn cymunedau. Mae Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymdrechu i ddatblygu diwylliant cynhwysol sy'n defnyddio'r Gymraeg fel rhan o fusnes bob dydd.

 

Oes digon yn cael ei wneud i geisio lleihau cyfraddau troseddu yn yr ardal yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc?  

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Mae'r heddlu'n gweithio'n barhaus i fynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau. Mae gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gronfa benodol sy'n cael ei thargedu tuag at brosiectau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc i'w helpu i gadw draw rhag troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Heddlu Gwent hefyd yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i addysgu a hysbysu pobl ifanc, ac yn gweithio'n ddiwyd i fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol sy'n targedu plant a phobl ifanc agored i niwed yn benodol.

 

Yn anffodus mae cam-drin yn digwydd yn ein cymdeithas ac mae niferoedd yr achosion o dreisio yn parhau i godi pryderon. Oes digon o gymorth ar gael i ddioddefwyr?

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Yng Ngwent rydym wedi sefydlu Uned Gofal Dioddefwyr ymroddedig i sicrhau bod dioddefwyr yn elwa o gysylltiad rheolaidd gyda swyddog gofal penodedig ar gyfer dioddefwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn ac yn cael gwybod y diweddaraf drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol. Mae gennym hefyd staff ymroddedig i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol, a chydlynydd ymgysylltu â goroeswyr sy'n gweithio gyda goroeswyr er mwyn sicrhau bod eu profiadau'n helpu i lywio'r ffordd y mae swyddogion yn ymateb i ddioddefwyr, a'r gwasanaethau y mae Heddlu Gwent yn eu cynnig.

Mae llawer o sefydliadau yng Ngwent sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig a rhywiol. Os ydych chi'n poeni am rywun neu'n profi cam-drin,  cysylltwch â Byw Heb Ofn, y gwasanaeth cymorth a chefnogaeth genedlaethol 24/7.  https://www.llyw.cymru/byw-heb-ofn 

 

Mae pwysau gan gyfoedion yn beth mawr ym mywydau pobl heddiw. Sut mae pobl yn rhoi terfyn arno? 

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Dyw pwysau gan gyfoedion ddim yn ffenomenon newydd ym mywyd pobl ifanc.  Bydd pob cenhedlaeth o blant wedi profi pwysau gan gyfoedion o ryw fath. Fodd bynnag, efallai bod pobl ifanc dan fwy o bwysau i gydymffurfio â rhai safonau cymdeithasol heddiw. Mae pobl yn fwy agored i gyfryngau cymdeithasol sydd wedi dod yn rhan annatod o fywydau pobl ifanc. Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu gwneud pobl ifanc yn fwy agored i wneud penderfyniadau neu ddewisiadau peryglus. Mae'r angen i gael eu derbyn a'u gwerthfawrogi gan eu cyfoedion yn gallu gwneud i bobl ifanc deimlo dan bwysau i wneud rhywbeth na fydden nhw fel arfer yn ei wneud, fel pethau peryglus a thorri rheolau. Mae pwysau a dylanwadu gan gyfoedion yn gallu bod yn gadarnhaol hefyd, a gall ddylanwadu ar berson ifanc i fod yn fwy pendant, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd neu gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol. Mae cael y cydbwysedd iawn rhwng bod yn nhw eu hunain a bod ar yr un donfedd â'u grŵp ffrindiau'n gallu bod yn anodd iawn, yn arbennig yn oes y cyfryngau cymdeithasol. Mae ymchwil yn dangos bod dylanwad cyfryngau cymdeithasol yn gallu ei gwneud yn anoddach ymdopi gyda phwysau gan gyfoedion gan fod pobl ifanc yn teimlo dan fwy o bwysau i gydymffurfio ag ymddygiad eu cyfoedion er mwyn cael eu derbyn a'u gwerthfawrogi.

"Mae ymdopi'n dda gyda phwysau gan gyfoedion yn gallu bod yn anodd y dyddiau yma, ond mae oedolion yn gallu helpu pobl ifanc i gael gwell cydbwysedd rhwng bod yn nhw eu hunain a bod yn rhan o'r grŵp cymdeithasol. Yng Nghymru, mae gan blant a phobl ifanc gwricwlwm newydd sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu mwy o hyder i wrthsefyll dylanwad negyddol gan gyfoedion. Mae agweddau iechyd a lles y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc archwilio ac arfarnu sut a pham maen nhw'n dewis ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol penodol a sut mae'r rhain yn gallu effeithio ar ymddygiad. Bydd pobl ifanc yn cael cefnogaeth i ddeall a gwerthfawrogi manteision cydberthnasau iach yn well, gan gynnwys agweddau ar gydberthnasau sydd ddim bob tro yn ddiogel ac iach. Bydd pobl ifanc yn cael cefnogaeth i ddysgu sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i feithrin cydberthnasau iach, fel pwysigrwydd empathi, derbyn gwahaniaeth, parchu barn pobl eraill, tosturi, datrys problemau, rheoli gwrthdaro ac ati. Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddylanwad cynyddol technoleg ar eu bywydau bob dydd a'r goblygiadau y gallai hyn ei gael i'w hiechyd a'u lles nhw, yn arbennig yr effaith bosibl ar iechyd a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol. Dylid ystyried penderfyniadau, asesu risg a sefyllfaoedd a rhyngweithio diogel ac anniogel mewn cyd-destun digidol. Mae hyn yn cynnwys cydberthnasau gyda phobl eraill, diogelwch ar-lein, goblygiadau cyfreithiol a dylanwadau cymdeithasol ar-lein (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol)."

 

Fel pobl ifanc, rydym yn synnu bod penderfyniad wedi cael ei wneud i ddiffodd goleuadau stryd yn ein cymuned. Onid yw'r penderfyniad yn un sy'n ein rhoi ni mewn perygl ac oni ddylai ein diogelwch ni fod yn bwysicach nag arbed arian?

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Dylai diogelwch plant a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth i gynghorau lleol, ac ni ddylent byth wneud penderfyniadau ar sail arbed arian yn unig.  Hoffem i bob awdurdod lleol gynnal 'asesiadau o effaith ar hawliau plant' sy'n golygu bod rhaid iddyn nhw ddangos sut maen nhw wedi ystyried sut mae penderfyniadau yn effeithio ar hawliau plant. Dylai pob cyngor lleol glywed barn plant ynglŷn â materion sy'n effeithio arnyn nhw. Caiff hyn ei amlinellu yn y gyfraith dan adran 12 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Rydym wedi creu pecynnau cymorth sydd wedi cael eu cynllunio i helpu pobl ifanc i gymryd camau gweithredu er mwyn i'w barn gael ei chlywed yn eu cymuned leol, gan gynnwys codi problemau gyda'u cyngor lleol: https://www.complantcymru.org.uk/gwneud-gwahaniaeth/"

 

Oes digon yn cael ei wneud i hybu cydraddoldeb yng Nghymru heddiw?

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Rwy'n credu y gallem ni wneud llawer mwy. Rydym wedi gweld rhai datblygiadau i'w croesawu'n ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ei Chynllun Cymru Gwrth-hiliol, a'r Cynllun Gweithredu LHDTQ+. Mae tasglu hawliau anabledd wedi cael ei sefydlu hefyd i geisio mynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl ac i hybu eu hawliau dynol.  Mae'r rhain i gyd i'w croesawu ond mae angen gwneud llawer, llawer mwy i greu newid ymarferol. Rwyf hefyd yn pryderu'n fawr am y ffordd y mae rhai gwleidyddion yn siarad am geiswyr lloches a ffoaduriaid ar hyn o bryd, a'r newidiadau a awgrymwyd i gyfyngu ar eu hawliau dynol. Rhaid i ni wynebu'r heriau hyn yn benben a byddaf yn parhau i godi llais yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn plant yn ei holl ffurfiau, gan weithio i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru'n cadw at ei ymrwymiadau."

 

Fel pobl ifanc, mae llawer ohonom ni'n gweithio rhan amser i dalu costau teithio i'r ysgol. Ydych chi'n credu ei bod yn deg ein bod ni'n cael ein talu llai nac oedolion am wneud yr un gwaith a nhw?

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Rwy'n credu ei bod yn annheg bod pobl ifanc yn cael eu talu llai nac oedolion am yr un gwaith. Dylai'r isafswm cyflog fod yn isafswm cyflog i bawb.  Yn anffodus, mae hyn yn rhywbeth mae llywodraeth y DU yn ei reoli a ‘does gen i ddim pŵer i wneud iddyn nhw newid hyn. O ran costau teithio i fynd i'r ysgol, rwy'n credu ei bod yn annheg iawn bod plant yn gorfod talu costau teithio o gwbl, ac rwy'n gofyn i'r llywodraeth wneud trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob plentyn hyd at 18 oed. Mae hwn yn argymhelliad ffurfiol rwyf wedi ei wneud trwy fy adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru. Dydyn nhw ddim wedi ei dderbyn yn llwyr nac wedi ei wneud eto, ond byddaf yn parhau i wthio'r mater yma, gan y byddai'n gwneud gwahaniaeth mor sylfaenol i blant a phobl ifanc, a theuluoedd mwy tlawd ac i'r argyfwng hinsawdd."

 

Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn ymdrin â phroblemau iechyd meddwl. Ydych chi'n meddwl y bydd Cwricwlwm i Gymru yn helpu ein pobl ifanc i ymdopi'n well yn y dyfodol? 

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Rwy'n credu y bydd y cwricwlwm newydd yn gwneud mwy i helpu pobl ifanc sy'n ymdrin â phroblemau iechyd meddwl a gyda lles ehangach - mae hyn oherwydd bod y cwricwlwm newydd yn canolbwyntio mwy ar iechyd a lles, ac ar ymchwilio i broblemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Mae'r cwricwlwm newydd wedi cael ei ddatblygu'n ofalus i ddarparu fframwaith i ddisgyblion allu dysgu am y pynciau hyn yn ddiogel a gyda chefnogaeth. Serch hynny, fydd y cwricwlwm ar ei ben ei hun ddim yn newid pethau digon. Dyna pam mae'n rhaid i ysgolion gael cysylltiadau da gyda gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl a lles, fel yr amlinellir yn y ‘fframwaith  Dull Ysgol Gyfan’ y dylai pob ysgol fod yn ei fabwysiadu."