Bwrdd Cyfiawnder Troseddol

Mae Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent wrth galon y system cyfiawnder troseddol yng Ngwent. Mae'n dwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol at ei gilydd i hybu prosesau cyfiawnder troseddol cydgysylltiedig ar draws amrywiaeth o ardaloedd.

Nod y Bwrdd yw gweithio mewn partneriaeth i ddarparu system cyfiawnder troseddol deg, effeithlon ac effeithiol ledled Gwent sy'n atal, lleihau ac ymateb i droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, wrth ganolbwyntio ar anghenion dioddefwyr a thystion ar yr un pryd.

Cylch Gwaith


Aelodaeth

Aelodau craidd y Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol yw:

Mae nifer o aelodau yn aelodau cyfetholedig hefyd, gan gynnwys:


Y Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Ymysg cyfrifoldebau ehangach y Comisiynydd mae goruchwylio a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol i sicrhau system cyfiawnder troseddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer Gwent. Er mwyn cyflawni'r dyletswyddau hyn, mae'r Comisiynydd yn Gadeirydd Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent ar hyn o bryd.

Fel bwrdd sefydledig a phrofiadol, mae'r Bwrdd yn fforwm delfrydol i'r Comisiynydd drafod materion cyfiawnder troseddol gyda chynrychiolwyr asiantaethau ar lefel briodol.   Mae'r Bwrdd hefyd yn rhoi cyfle i'r Comisiynydd ddysgu am broblemau o fewn y system cyfiawnder troseddol ac ystyried ac argymell datrysiadau gyda phartneriaid.

Trwy gydweithio â'r Bwrdd, gall y Comisiynydd gytuno ar strategaethau ar gyfer Gwent gyfan sy'n helpu i sicrhau dull cyson, effeithlon ac effeithiol o ymdrin â materion cyfiawnder troseddol.


Partneriaethau

Mae gan y Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol gysylltiadau ag amryw o bartneriaethau ledled Gwent ac ar draws Cymru gyfan hefyd, sy'n cefnogi'r system cyfiawnder troseddol.  Mae amryw o is-grwpiau hefyd sy'n canolbwyntio ar faterion penodol.


Cyflawniadau Nodedig

Caiff cyflawniadau nodedig a chynnydd a wneir gan Fwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent eu cyhoeddi bob blwyddyn.

Cyflawniadau Nodedig 2017-18