Y Gofyniad Plismona Strategol

Mae heddluoedd Cymru a Lloegr yn gyfrifol am fynd i'r afael ag amrywiaeth eang o ddrygau, bygythiadau a pheryglon er mwyn lleihau nifer y troseddau a chadw'r cyhoedd yn ddiogel. Er y gall un heddlu fynd i'r afael â sawl un o'r rhain o fewn ei ardal blismona ei hun, mae rhai sy'n mynd y tu hwnt i'r terfynau hynny. Gall fod yn ofynnol cael ymateb cydlynol neu gyfansymiol i'r bygythiadau cenedlaethol hyn, lle gellir uno adnoddau o nifer o heddluoedd. Yn aml, mae angen i heddluoedd gydweithio, a chyda phartneriaid eraill, asiantaethau cenedlaethol neu drefniadau cenedlaethol, er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â bygythiadau o'r fath yn effeithiol.

Mae'r Gofyniad Plismona Strategol wedi'i gyflwyno'n weithredol â dyletswydd statudol yr Ysgrifennydd Cartref er mwyn nodi'r hyn sydd, yn ei barn hi, yn fygythiadau cenedlaethol ar yr adeg ysgrifennu a'r galluoedd plismona cenedlaethol priodol sy'n ofynnol i fynd i'r afael â'r bygythiadau hynny.

Saesneg