Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Eleri Thomas yw Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent.
Bywgraffiad
-
Cyn-Brif Swyddog Gweithredol a Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru.
- Dyfarnwyd Trefn Arbennig yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) iddi yn 2009, a hynny am ei gwasanaethau i blant a phobl ifanc pan oedd yn bennaeth yr elusen plant, Achub y Plant, yng Nghymru
- Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arweinyddiaeth a rheoli yng Nghymru.
- Mae wedi cael dylanwad strategol cenedlaethol ar feysydd ffocws, yn cynnwys teuluoedd sy’n byw mewn tlodi; y system cyfiawnder ieuenctid; pobl sy’n profi problemau iechyd meddwl; cydlyniant cymunedol; integreiddio teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr; trosedd casineb a’i heffaith ar deuluoedd sy’n ceisio lloches; a chamfanteisio ar blant.
- Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth ar bob lefel, a hynny gyda Llywodraeth Cymru, Heddluoedd, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ledled Cymru.
- Arweiniodd y gwaith o alw grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol o randdeiliaid ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant, a’r canlyniad oedd llunio cynllun gweithredu cenedlaethol; hefyd, cydgysylltodd gyflwyniad Comisiynwyr y DU i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
- Mae wedi rhoi cefnogaeth arbenigol i heddluoedd yng Nghymru o ran datblygu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant.
Cyflog
£52,500 y flwyddyn
Hysbysiad o Fuddiannau y Gellir eu Datgelu
Ceir gwybodaeth am roddion a lletygarwch a gyflwynir i'r Dirprwy Gomisiynydd yn y Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch.
Cysylltu â'ch Dirprwy Gomisiynydd
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Pencadlys yr Heddlu
Croesyceiliog
Cwmbrân
NP44 2XJ
E-bost